Gwestai Planed Plant

Y Garej

Mae'r Garej 'nôl!

Mae hi'n amser am gyfres newydd o'r rhaglen sy'n trafod y teclynnau gwycha' a'r ceir diweddara'. Bydd Alun a Hannah yn croesawu llwythi o sêr fel Huw Stephens, Lauren Phillips a Dafydd Du i'r Garej - ond pwy bydd y seren sy'n deall eu teclynnau orau? Cofia wylio bob dydd Gwener i gael yr ateb!

CYSTADLEUAETH!

Gan bod y Garej yn ôl, mae'r gystadleuaeth yn ôl! Fe alli di ennill ambarel i dy esgidiau a gutar drydan 'virtual'! Ond cofia, bydd rhaid i ti ateb y cwestiwn yma'n gywir yn gyntaf:

Pwy ganodd gân am ambarel?

a) Duffy
b) Rihanna
c) Katy Perry

Os wyt ti'n gwybod yr ateb, tecstia 'PP' + dy ateb a manylion cyswllt i

80800

Bydd y llinellau'n cau am 6:00 ar nos Iau Mawrth yr 11eg 2010, pob lwc!

Clicia yma i chwarae'r gêm

Y Garej - pob dydd Gwener am 4:25 ar Planed Plant

Rheolau'r gystadleuaeth

* Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb, heblaw unigolion sy'n gyflogedig gan Boomerang neu S4C, eu teuluoedd agos a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
* Nid oes angen prynu dim i gystadlu.
* Gallwch gystadlu gymaint o weithiau ac yr hoffech.
* Bydd dau wobr ar gael, i un enillydd.
* Dewisir yr enillydd ar hap.
* Amser cau'r gystadleuaeth yw 6:00 yr hwyr nosIau Mawrth yr 11eg 2010
* Rhoddir gwybod i'r enillydd/wyr ar ôl yr amser cau dros y ffôn.
* Cyhoeddir enw'r enillydd ar raglen Planed Plant
* Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo unrhyw wobr.
* Mae penderfyniad Boomerang / S4C yn derfynol.
* Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd erbyn y dyddiad cau.