Blog
Wythnos 10—
Gwlad Yr Iâ (Rhan 2) gan Alun Williams
Wel, shwmae de?! Co’ ni off ar ran ola’r daith a ni dal yng Ngwlad yr Iâ! Un o’r pethau enwoca’ am y wlad yw’r ‘Blaa Lonio’ neu yn y Gymraeg y ‘Lagŵn Glas’. Fan hyn ma’ pobl yn dod i ymlacio ac i ymbincio! Ma’r pridd sydd ar waelod y lagŵn yn llawn mwynion a phethau da ar gyfer y croen ac fel gallech chi weld o’r lluniau, ac fe gymerodd Williams fantais lwyr o’r driniaeth harddwch am ddim!
Un peth mae’n rhaid gwneud wrth ddod i Wlad yr Iâ yw mynd ar ‘skidoo’. Fel chi’n gallu dyfalu o’r enw mae fe fel sgïo ond yn lle mynd ar eich traed, chi ar gefn motor-beic sydd gyda sgîs yn lle olwynion! Ni’n neud e o hyd yng Ngorslas, ychan!
Yn dilyn hoe fach ar y mynydd ar ôl y ‘skidoo’, penderfynodd y twmffat Williams fod e moyn cael bach o liw haul felly, bant â fe i’r traeth. Y TRAETH! Ma’n troi mas taw tywod du sy ‘da nhw fan hyn a dim lot o haul! Tra o’dd y sledj yn trio dal yr haul es i am dro ar rewlif enfawr oedd yn brofiad a hanner!
I orffen ein taith o gwmpas Gwald yr Iâ aeth Al a fi i fwyty crand yn y brifddinas, Rekjavik. Whare teg, o’dd y bwyd yn wych. Ac felly, gyda deigryn yn ‘n llygad meddylies i ‘nôl am ein deg wythnos ar y ffordd… Atgofion melys, bwyd anhygoel a phrofiadau bendigedig. Trueni am y cwmni, ife?!
Ryseitiau 09—
Bysedd Pysgod
CYNHWYSION
- 1 cwpan menyn pysgnau (peanut butter)
- 1 cwpan siwgr eisin (wedi ei hidlo)
- ½ cwpan cnau Ffrengig (Walnuts)
- 2 lwy fwrdd menyn meddal
- 1 cwpan blawd cnau coco (dessiccated)
DULL
- Cymysgu’r menyn pysgnau, siwgr eisin, cnau Ffrengig a’r menyn mewn bowlen.
- Siapio i ffurfio peli – dewis di eu maint!
- Rholio’r peli yn y blawd cnau coco.
- Rhoi’r peli yn yr oergell am gwpwl o oriau yna...
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 09—
Gwlad Yr Iâ gan Alun Williams
Iawn, la?! Blincin’ ec’, mae’n oer dydi? A dwi’m jyst yn sôn am Gymru, achos dyn ni yng Ngwlad yr Iâ! Yn ôl ein sgript, “mae’n ynys fach yng ngogledd Môr yr Iwerydd sy’n llawn rhyfeddodau” ac am unwaith, roedd y sgript yn iawn!
Nathon ni ddechrau’n taith ni mewn pwll nofio awyr agored. Nid y lle mwya’ delfrydol i fod mewn gwlad sy’n enwog am ei “iâ”, ond dyma be mae’r bobl leol yn ‘neud o hyd - neidio mewn i ddŵr sy’n cael ei gynhesu gan wres y ddaear. Mae’n rhatach na bath, ac yn boethach!
Yn ôl yr arfer, o’dd Ants isho dangos peth o’r bwyd lleol i mi, ond doedd gen i ddim syniad bysen ni’n gorfod bwyta un o fwydydd “traddodiadol” y Llychlynwyr, sef pen dafad. Ych a fi! Pan ddaeth y Llychlynwyr yma’n wreiddiol doedden nhw ddim yn gallu tyfu lot fawr o bethau, ac wrth olwg pen y ddafad doedden nhw’m yn gallu gweld na blasu yn dda iawn chwaith!
Yr her i ni'r wythnos hon oedd cystadlu yn un o gampau traddodiadol Gwlad yr Iâ, sef reslo - neu i roi’r enw iawn arni - Glima. Yn amlwg oni’n wych tra o’dd Ants, wel, yn “pants”, he-he! Ond o fewn dim o’dd Ants ‘di troi’r daith ‘nôl at fwyd a ffwrdd â ni felly i geisir. Nid y math o foi ti’n cael yn Llundain sy’n deud “Awight mate, apples an’ pears, innit?” ond y dŵr sy’n dod o grombil y ddaear - ac yn yr achos yma yn coginio bara. Rhyfedd yn wir!
Bydd Ant ei hun yma wythnos nesa i sôn am weddill yn ein taith o gwmpas Gwald yr Iâ felly, am y tro, hwyl fawr!
Ryseitiau 09—
Bysedd Pysgod
CYNHWYSION
- 2 ŵy
- 2 llwy fwrdd dŵr
- Halen a phupur
- 1 ½ cwpan briwsion bara
- 3 llwy fwrdd caws parmesan wedi’i gratio
- 900g pysgodyn gwyn – lleden os yn bosib
- ¼ cwpan olew olewydd
- 1 lemwn
DULL
- Curo’r wyau, dŵr a’r halen a phupur mewn bowlen. Mewn bowlen arall cymysgu’r briwsion bara a’r caws parmesan.
- Rhoi’r pysgod o dan y tap, eu golchi a’u torri mewn i ddarnau hir tua 5cm o hyd.
- Dipio’r darnau pysgod i’r cymysgedd ŵy yna i’r gymysgedd bara.
- Cynhesu’r olew olewydd mewn padell ac ychwanegu’r pysgod nes i’r briwsion droi’n euraidd. Cofio troi’r bysedd er mwyn coginio’r 2 ochr
- Rhoi’r bysedd pysgod ar dywelion papur yna gwasgu ychydig o sudd lemwn arnynt a...
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 08—
Ynys Môn gan Anthony Evans
Shwmae de?! Dyn ni dal yng Nghymru, ac yn anffodus i fi, ni 'di gorfod mynd yr holl ffordd lan i'r blincin' Gogs… Ynys Môn i fod yn fanwl gywir.
Falle bo' ti'n meddwl i dy hun "be sy mor sbesial am Ynys Môn pan mae'n dod i fwyd?" ac i fod yn onest efo ti, oni'n meddwl union yr un peth! Ond ffeindion ni ddigon o bethau neis i fwyta ar yr ynys, gan ddechrau gyda malwod! Ie, nid jyst yn Ffrainc ma' nhw'n bwyta malwod, ond hefyd mewn llefydd mwy posh fel Gogledd Cymru.
Am ryw reswm penderfynodd Al y bydde'n syniad da i wisgo lan fel cowbois a byta bîns. Wedi'r cwbl, dyma'r unig fwyd ma'r pwdryn yn gallu stumogi'n iawn. Be sy 'da hwn i neud gydag Ynys Môn, sai'n gw'bod, ond o'dd e'n dipyn o sbort ta beth!
Ar ôl 'bach o farchogaeth ar lan y môr, aethon ni ati i lenwi'r bolie gyda bara wedi'i bobi yn defnyddio blawd lleol o Felin Llynon, yna fe gafon ni rysáit draddodiadol o'r ynys - 'Wyau Sir Fôn' - ac i orffen, wystrys ffres yng Ngŵyl Llymarch Môn. Yn anffodus, doedd y rhain ddim at chwaeth Al, fel allech chi weld wrth edrych ar y lluniau!
Bydd Al ei hun yma wythnos nesa i sôn am ein lleoliad nesa' ni – ond sai'n cael gweud ble ma' fe - felly, am y tro, hwyl fawr!
Ryseitiau 08—
Bara Brith
CYNHWYSION
- 450g blawd codi
- 1 llond llwy de sbeis cymysg
- 175g siwgr Muscavado
- 1 ŵy canolig ei faint
- 1 llond llwy fwrdd croen oren wedi'i gratio
- 2 lond llwy fwrdd sudd oren
- 1 llond llwy fwrdd mêl
- 300ml te oer
- 450g ffrwythau sych cymysg
- Mêl ychwanegol i roi sglein arno
DULL
- Rhoi'r ffrwythau sych cymysg mewn powlen gymysgu, arllwyso'r te drostynt, rhoi caead ar y bowlen a'u gadael dros nos,
- Y diwrnod wedyn, cymysgu'r siwgr, yr ŵy, y sudd a'r croen oren a'r mêl a'u hychwanegu at y ffrwythau.
- Hidlo'r blawd a'r sbeis i mewn atynt a'u cymysgu'n dda.
- Arllwyso'r cymysgedd i dun bara 1.2 litr wedi'i iro â menyn.
- Pobi mewn popty wedi'i gynhesu i nwy 3/160c am ryw 1¾ awr.
- Dylai'r dorth fod yn lliw euraidd a dylai'r canol fod wedi coginio'n iawn.
- Gadael iddi oeri'n iawn cyn ei rhoi mewn tun cacen i'w chadw.
- Gweini gyda menyn.
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 07—
Sir Fynwy gan Alun Williams
Iawn la?! Dyn ni adre yng Nghymru - hwrê! Am y pythefnos nesa byddwn ni’n teithio ar hyd ein mamwlad yn blasu’r bwydydd gorau, a’r wythnos hon, nathon ni gychwyn yng Ngŵyl Fwyd Y Fenni.
Cystadleuaeth gwneud selsig oedd y peth cynta’ nathon ni cyn symud ymlaen at “her” arbennig rhwng Ant a finnau i flasu rhai o’r cynnyrch gorau oedd ar gael yn yr ŵyl. Dyn ni i gyd yn gwybod bod Ants yn casáu pethau poeth yn ei geg ac fel medri di weld o’r lluniau, dwi’m yn ffan mawr chwaith!
Ar ein taith drwy sir Fynwy aethon ni heibio hen bwll glo o’r enw Blaenafon sydd erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio i storio rhywbeth gwahanol iawn… Caws! Mae’r caws yn cael ei aeddfedu yn yr hen byllau achos bod yr amodau yn ddelfrydol – tywyll ac oer!
A sôn am ‘dywyll ac oer’ dyna’r union eiriau i ddisgrifio ein lleoliadau nesa - tafarn y Skirrid Inn a chanolfan ddringo sy’n cael ei defnyddio gan y Fyddin! Mae ‘na lwyth o ysbrydion yn y dafarn yma yn ôl y bobl sy’n mynychu’r lle, felly ffwrdd â ni i chwilio amdanyn nhw! Syniad Ants oedd gorffen ein taith drwy’r sir yn y ganolfan ddringo a dwi’n meddwl nath o ddewis y lle achos bod o’n gwybod ‘mod i ofn uchder. Diolch, Ants!
Bydd Ant yma wythnos nesa i sôn am ein lleoliad nesa’ ni – Ynys Môn - ond am y tro, hwyl fawr!
Ryseitiau 07—
Pice Ar Y Maen
CYNHWYSION
- 125g menyn
- 250g blawd codi
- 75g siwgr mân
- Pinsiad o bowdwr sbeisys cymysg
- 100g cyrains/syltanas/resins
- 1 ŵy wedi ei guro
DULL
- Cymysgu’r menyn a'r blawd
- Ychwanegu'r wy
- Rhoi’r siwgr, sbeisys a'r ffrwythau i mewn
- Cymysgu’r cyfan
- Rhoi’r cymysgedd yn yr oergell am hanner awr i oeri
- Rholio’r cymysgedd nes ei fod tua 1cm o drwch
- Defnyddio torrwr siâp cylch i dorri'r cacenni
- Coginio’r cacenni mewn padell ffrio neu ar garreg bobi HEB olew na menyn
- Coginio’r cacenni ar wres isel nes eu bod yn frown bob ochr
- Rhoi’r cacenni ar blât
- Rhoi siwgr ar y cacenni cyn eu bwyta a
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 06—
Cork gan Anthony Evans
Shwmae de?! Mae’n taith ni drwy Iwerddon ‘di mynd â ni’r holl ffordd lawr i’r de ac i ddinas Cork.
S’dim byd gwell peth cyntaf yn y bore na brecwast Gwyddelig; ac un peth ma’r Gwyddelod yn gw’bod shwd i neud yn dda yw pwdin gwaed - Mmmmmm!! Bant â ni felly i ffatri i ddangos i’r pwdryn Williams sut i neud y pwdin!
Ar ôl ei holl gonan yn y ffatri o’dd hi’n amser gorffwys. Syniad fi o’dd mynd i gusanu’r Carreg Blarney enwog. Syniad Al o’dd mynd i ware golff! Ma’n rhaid i fi gyfadde’, y golff o’dd y mwya’ o hwyl; yn enwedig ar ôl gweld faint o bobl eraill ar draws y byd, ac ar hyd y canrifoedd, o’dd wedi bod yn cusanu’r garreg. Miliynau! Ych a fi!
I orffen ein taith aethon ni mas ar y môr, a’r tro ‘ma nid pysgod oedden ni moyn dal ond llyswennod. Llyswennod Conger mawr! Whare teg i Al am drio’i orau - o’dd e wedi llwyddo i ddal un tua 3 troedfedd o hyd ond erbyn diwedd y dydd ges i un PUM troedfedd. Fi yw’r pencampwr, fy ffrind!
Bydd Al yma wythnos nesa i sôn am ein lleoliad nesa’ ni – Cymru - ond am y tro, hwyl fawr!
Ryseitiau 06—
Lobsgows Gwyddelig
CYNHWYSION
- 2 winwnsyn wedi eu torri yn fân
- Olew ar gyfer ffrio
- 25g menyn
- 1 sbrigyn teim
- 1kg cig oen - pen gorau’r gwddf
- 7 moronyn wedi eu torri i ddarnau 7cm o hyd
- 5 cwpan stoc
- Halen a phupur
- 12 taten
- 1 bwnsiad persli
- 1 bwnsiad gorwinwyn
DULL
- Mewn sosban fawr coginio’r winwns a’r menyn nes iddynt feddalu.
- Ychwanegu’r teim a chymysgu.
- Ychwanegu’r cig oen ar dymheredd uchel yna ychwanegu’r moron
- Ychwanegu’r blawd os ydy’r toes yn teimlo’n rhy wlyb.
- Paratoi digon o stoc i orchuddio’r cig a’r llysiau
- Ychwanegu’r halen a’r pupur.
- Rhoi gorchudd ar y sosban a’i goginio ar y stôf ar dymheredd isel am tua 2 awr (peidwich a’i ferwi!)
- Ar ôl dwy awr ychwanegu’r tatws, gorchuddio’r sosban unwaith eto a choginio’r cyfan am 30 munud.
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 05—
Dulyn gan Alun Williams
Iawn, la?! 'Dyn ni 'di dod i Iwerddon am gwpl o ddyddiau ac wedi dechrau ein taith ar Yr Ynys Werdd yn y brifddinas, Dulyn! Ma'r lle 'ma yn denu cannoedd ar filoedd o dwristiaid bob blwyddyn, ac mae'n nhw'n dod i amsugno 'chydig bach o'r diwylliant Gwyddelig ac efallai taro mewn i John ac Edward a Louis Walsh hefyd!
Nathon ni ddechrau'r daith o gwmpas y ddinas drwy fynd ar hyd yr afon Liffey sy'n llifo drwy Ddulyn ac yna ymlaen i'r môr Gwyddelig. Mae'n debyg mai'r ffordd yma daeth y Llychlynwyr i Iwerddon, ond dwi'n siŵr bod nhw heb wisgo fel nathon ni. Ta waeth, o'dd o'n gyfle da i ddod i 'nabod y ddinas, ac i weiddi yn uchel ar y bobl leol!
Ar ôl yr holl sŵn o'dd hi'n amser bwyd, a be' well na lobsgóws Gwyddelig? Mae o 'chydig bach fel ein lobsgóws ni, ond be' nath Ants ddim deud wrtha' i oedd bod 'na gynhwysyn ychwanegol "cyfrinachol" maen nhw'n hoffi rhoi mewn i'r lobsgóws yn Iwerddon. A dych chi'n gw'bod be' oedd o? TAFOD!
Fel petai hwnna ddim yn ddigon i godi ofn arna' i, y peth nesa' ar ein "bwydlen" oedd ymweliad i dŷ Bram Stoker - y dyn nath sgwennu 'Dracula'! Mae'n rhaid i mi ddweud 'mod i 'di mwynhau'r profiad yn arw, ond oni yn edrych ychydig bach yn welw ar y sgrin wrth wylio'r rhaglen yn ôl… dwn i'm pam de.
Bydd Ant yma wythnos nesa i sôn am ei hoffter o ddawnsio Gwyddelig a'i syniad o hwyl, sef neidio yn y mawn (mae'n draddodiad yn Iwerddon yn ei ôl o)! Ond am y tro, hwyl fawr!
Ryseitiau 05—
Bara Soda Gwyddelig
CYNHWYSION
- Olew olewydd ar gyfer y tun pobi
- 250g blawd plaen
- 1 llwy fwrdd halen
- 1 llwy fwrdd soda pobi
- 2 llwy de siwgr brown
- 225ml llaeth enwyn neu iogwrt "byw"
DULL
- Cynhesu'r popty - marc nwy 8/230C. Rhoi ychydig o olew olewydd ar y tun pobi.
- Hidlo'r blawd, halen a soda mewn bowlen ac ychwanegu'r siwgr
- Ychwanegu'r llaeth enwyn neu'r iogwrt a chymysgu gyda llwy bren i ddechrau yna gyda dy ddwylo nes i ti ffurfio pelen.
- Ychwanegu'r blawd os ydy'r toes yn teimlo'n rhy wlyb.
- Rhoi'r dorth ar y tun pobi a rhoi slaes siâp croes ar ben y dorth gan ddefnyddio cyllell finiog.
- Coginio yn y popty am tua 12 munud yna troi'r tymheredd i lawr i farc nwy 4/200C a choginio am 15-20 munud ychwanegol
- Gadael y bara i oeri ychydig yna....
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 04—
Dyfnaint (Rhan 2) gan Anthony Evans
Shwmae de! Ni yn Nyfnaint unwaith eto a sdim byd gwell na bach o bysgota, dawnsio, coginio ac actio fel ditectifs pan chi ar eich gwyliau, nag oes? O, na? Felly, dyna yn union be nethon ni yr wythnos hon!
Torquay o'dd y man cychwyn, ac ar ôl dawns draddodiadol yr ardal – y ‘Morris’ – i "dwymo ni lan" fel petai, o'dd rhaid i'r bolgi Williams 'na gael bach o fwyd, felly bant â ni i fferm leol i greu'r bwyd lleol – PASTAI! Y peth mwya dwl yw bod pobl Dyfnaint yn honni bod y pastai yn dod o'u hardal nhw tra bo' pobl Cernyw yn dweud taw nhw ddyfeisiodd y peth!
Ma' trefi glan-y-môr Torquay, Paignton a Brixham yn cael eu hadnabod fel y 'Riviera Prydeinig' gan fod yr arfordir mor bert ac mae un o awduron nofelau ditectif mwya' adnabyddus y byd yn dod o'r lle 'ma – Agatha Christie. Hi oedd wedi creu Miss Marple a Hercule Poirot
Gan ein bod ni'n dwristiaid go iawn, o'dd yn hen bryd i ni weld rhai o lefydd mwya poblogaidd yr ardal, ac fy hoff un i o'dd pentre bach Babbacombe; lle sydd wedi adeiladu i edrych hanner maint pentre go iawn. Sioc go iawn o'dd gweld modelau o Al a fi yno!
Ma'n rhaid I fi weud, joies i mas draw yn Nyfnaint – o'dd y bwyd yn wych, y golygfeydd yn bert a'r pysgota heb ei ail! Cofia ddod yn ôl wythnos nesa' pan fydd Al yma a byddwn ni dal... ar y ffordd!
Ryseitiau 04—
Byrgrys Bendigedig
CYNHWYSION
- 250g mins cig (gall fod yn gig eidion,oen neu hyd yn oed gafr!)
- Hanner winwnsyn
- 1 ŵy
- Perlysiau sych o'ch dewis chi
- Halen a phupur
DULL
- Torri'r ŵy i fowlen.
- Ychwanegu'r cig, winwnsyn (wedi ei dorri'n fan), perlysiau, halen a phupur. Y ffordd oorau i gymysgu ydy drwy ddefnyddio dy ddwylo!
- Ffurfio byrgyrs o'r cymysgedd- 6 bach neu 4 mawr!
- Cynhesu'r gril yna rhoi'r byrgyrs i goginio o dan y gril am 6 munud.
- Troi'r byrgyrs a'u coginio am 6 munud arall.
BWYTEWCH A MWYNHEWCH!
Wythnos 03—
Dyfnaint gan Alun Willliams
Iawn, la?! Dyn ni adre o'r Eidal ac yn ôl ym Mhrydain; Dyfnaint i fod yn fanwl gywir. Ma'r lle 'ma yn boblogaidd efo twristiaid - yn enwedig rhai o Gymru - gan fod o mor agos i ni. Roedd fferi arfer cludo pobl o Abertawe i Ogledd Dyfnaint ar gyfer eu gwyliau ac ma' 'na sn bod y wasanaeth am ail-gychywn cyn bo hir, sy'n newyddion da!
Y rheswm am boblogrwydd Dyfnaint fel lle gwyliau ydy'r traethau. Ma' 'na lwyth ohonyn nhw a dim ond un peth sydd ar feddwl rhan fwya' o bobl sy'n dod yma - syrffio! Nath Ants a fi drio gwneud ychydig o syrffio. "Trio" ydy'r gair gorau yn fy achos i. Oni'n warthus! Ond wrth gwrs, gan fod Ants yn gallu gwneud POPETH, o'dd o wrth ei fodd yn y dŵr.
Ar ôl y gwaith - ahem - "caled" yna, o'dd rhaid i ni gael bach o fwyd, felly ffwrdd ni i chwilio am y bwyd nath rhoi Dyfnaint "ar y map" fel petai - SGONS! Does na'm byd gwell na llond plt ohonyn nhw gyda llwyth o jam neu hufen tolch. Mmmmm, mmmmm, MMMMMM!!!
Am ryw reswm ma' Ants wastad yn hoffi gosod heriau i fi a fo pan dyn ni ar y ffordd a doedd Dyfnaint ddim yn eithriad. Gŵyl Fwyd Caerwysg oedd y lleoliad y tro 'ma. "Beeeeeeee?????!!"oedd fy ymateb i pan ddwedodd Ants ein bod ni am fod yn coginio yn erbyn ein gilydd... ac yn gorfod gwisgo fel "cubs" a "brownies"! Ma'r boi off ei ben!
Ta waeth, dwi'm am ddatgelu pwy nath ennill, ond o'dd hi'n gystadleuaeth agos. Rhy agos! Cofia ddod yn ôl wythnos nesa' pan fydd Ant yma a byddwn ni dal yma... ar y ffordd!
Ryseitiau 03—
Sgonau Gyda Hufen Tolch
CYNHWYSION
- 225g blawd codi
- Pinsiad o halen
- 55g menyn
- 25g siwgr mân
- 150ml llaeth
DULL
- Cynhesu'r popty i farc nwy 7/220c. Rhoi ychydig o saim ar dun pobi.
- Cymysgu'r blawd â'r halen a gweithio'r menyn i mewn i'r gymysgedd gyda dy fysedd.
- Ychwanegu'r siwgr a'r llaeth er mwyn creu toes meddal.
- Ychwanegu gweddill y blawd wrth gymysgu'r toes nes iddo greu pêl.
- Rhoi'r toes ar fwrdd wedi ei orchuddio â haenen o flawd. Gwasgu'r toes i greu cylch o does tua 2cm o dewdra.
- Defnyddio torrwr 5cm i dorri cylcheodd o'r does.
- Paentio'r sgonau gydag ychydig o laeth.
- Pobi am 12-15 munud nes iddynt godi a throi'n euraidd.
Gweini gyda menyn neu jam a digon o hufen tolch neu hufen wedi ei chwipio.
Wythnos 02—
Yr Eidal gan Anthony Evans
Shwmae de! Neu falle dylwn i weud "Ciao!" gan fod ni 'di bod yn Yr Eidal 'to yr wythnos hon. Ar ôl ein taith i Pisa, Firenze a Modena, penderfynon ni ei heglu hi sha Parma, Genoa a Camogli am bach mwy o fwyd. A be' o'dd 'na yn dishgwyl amdanon ni? Wel…Pasta, pesto, ham a physgod. S'dim byd gwell ychan!
Parma o'dd ein stop gynta', le ma' nhw'n creu un o fwydydd mwya' blasus y byd – ham Parma! 'Prosciutto' yw'r gair Eidaleg am 'ham' a prosciutto Parma yw'r enwocaf yn yr Eidal. Welon ni shwt ma'r cig yn cael ei halltu, ei sychu, ei heneiddio ac yn ola', ei brofi. Ac ie, ni nath y profi. Mmmmm, blasus!
Bant â ni wedyn i Genoa ac i'r farchnad er mwyn prynu pethau pwysig iawn – perlysiau ar gyfer pesto! Math o saws yw pesto, sy'n cael ei wneud mas o ddail basil, halen, garlleg, olew olewydd, cnau pinwydd a chaws Parmesan, sy'n dod o Parma, fel yr ham! Yna amdani i greu pasta ffres ein hunain, yn gwmws fel ma' Mama'n gwneud!
Cyn ein diwrnod ola' yn Portofino, gethon ni noson wych yng ngŵyl bysgod Camogli. Pentre' bach ar bwys y mor yw Camogli, ac unwaith y flwyddyn ma'r pysgotwyr lleol yn dal tunnell a hanner o bysgod ac yn eu coginio nhw mewn tair mil litr o olew mewn padell ffrio enfawr. Yna, plant y pentre' sy'n gweini'r pysgod i bawb cyn gorffen pob dim gyda BANG! a sioe tân gwyllt enfawr!
A dyna ni o'r Eidal. Dewch 'nôl wythnos nesa' i weld le fydd Ant ac Al ar y ffordd!
Ryseitiau 02—
Pizza Llysieuol Cyflym
CYNHWYSION
- 1 pecyn o furum sych
- 1 cwpan o ddŵr llugoer
- 1 llwy fwrdd o siwgr
- 1 llwy de o halen
- 3 cwpan o flawd (wedi ei hidlo)
- Ychydig o flawd ychwanegol i rolio'r toes
- 1 jar o saws tomato (ar gyfer pizza) neu 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
- 50g o gaws wedi'i gratio
- Llysiau o'ch dewis (india-corn, winwns, madarch, pupur coch, a.y.y.b.)
- Halen a phupur.
- Oregano sych (pinsiad)
DULL
- Toddi'r burum yn y dŵr naill ai mewn powlen neu mewn prosesydd bwyd a gadael iddo sefyll am tua 5 munud.
- Ychwanegu'r siwgr a'r halen.
- Cymysgu 1 ½ cwpan o flawd.
- Ychwanegu gweddill y blawd wrth gymysgu'r toes nes iddo greu pêl.
- Rhoi'r bêl o does ar fwrdd gyda haenen o flawd a thylino'r does am 5 munud.
- Rhannu'r toes i ddarnau cyfartal (tua 4) ac yna ei rholio i ffurfio siâp pizza.
- Rhoi'r pizzas ar duniau pobi a gadael iddynt godi mewn man cynnes am 15 munud.
- Ychwanegu'r saws tomato, y llysiau, caws, halen a phupur ac oregano.
- Cynhesu'r popty (nwy marc 7/220C)
- Coginio'r pizza am tua 20 munud nes i'r toes droi'n euraidd.
BUON APPETITO!
Wythnos 01—
Yr Eidal gan Alun Williams
Buongiorno! Neu, i ti a fi,"Sumae?!". Croeso i flog 'Ant ac Al ar y Ffordd'. Ew, dyna i ti dreiglad meddal da, ynde? Ta waeth, yr wythnos hon o'dden ni yn Yr Eidal. Yn Pisa, Firenze a Modena i fod yn fanwl gywir. Mae'r trefi hyn yng ngogledd y wlad yn Toscana ac yn enwog am eu bwydydd traddodiadol. A be' sydd fwy traddodiadol nac olew olewydd, finegr balsamig a pizza?!
I ddechrau'n taith aethon ni i fferm. Ond nid fferm gyffredin, o na. Fferm o'dd yn tyfu olewydd ac yna creu olew allan ohonyn nhw; olew sy'n cael ei ddefnyddio gan fwya' i goginio. Ond be' o'dd Ant isho 'neud efo'r olew? Creu pryd o fwyd hyfryd, wyt ti''n meddwl? Rhoi'd o ar ben ei salad? O,na. O'dd o isho yfed y stwff! Dwi 'di deud sawl gwaith bod o'n fochyn, ond o'dd hwn 'di profi'r peth i mi unwaith ac am byth!
Ar ôl crwydro rownd Firenze (neu 'Florence' i ti a fi) ar Segways (gweler y llun!) o'dden ni angen bwyd go iawn, felly, off â ni i 'neud pizza. Yn anffodus, dwi'n warthus yn coginio ac o'dd rhaid i fy ymgais i fynd yn y bin. O, wel. O leia' mae gen i lond rhewgell ohonyn nhw adre' yn barod i fynd mewn i'r popty ping!
I orffen rhan gynta' o'n taith o gwmpas gogledd Yr Eidal, o'dd Ant 'di trefnu ein bod ni am flasu'r hylif ddu a melys sy'n cael ei 'nabod fel "y finegr mwya' enwog yn y byd" - finegr balsamig. 'Di hwn ddim fel y stwff 'dych chi'n rhoi ar dy sglods, cofia! Gathon ni sawl pryd gwahanol gyda'r finegr, gan gynnwys pasta, sosej a chaws Parmesan. Oni'n reit hoff ohono i fod yn onest, hyd yn oed pan o'dd rhaid i ni gael o ar ben ein hufen iâ!
Dewch yn ôl wythnos nesa' pan fydd Ant yma i dy ddiddanu efo'i flog o. Bydd rhaid iddo fo ddysgu ysgrifennu yn gynta', amwn i. Tan hynny, arrivederci!
Ryseitiau 01—
Spaghetti Bolognese Traddodiadol
CYNHWYSION (i 4 person)
- 170g o fins cig eidion
- 1 x tun 400g o domatos
- 300g o spaghetti sych
- 1 winwnsyn
- 12 o fadarch bach
- 3 moronen
- 1 ciwb stoc
- 1 llwy de o oregano
- 2 llwy fwrdd o olew
- Halen a phupur
DULL
- Torri'r winwnsyn yn fân.
- Plicio a gratio'r moron.
- Paratoi'r ciwb stoc yn ôl y cyfweliadau ac ychwanegu'r oregano at yr hylif.
- Cynhesu'r olew mewn padell. Ychwanegu'r winwnsyn a throi'r nes iddynt feddalu (tua 5 munud).
- Ychwanegu'r mins a'i goginio nes iddo frownio.
- Ychwanegu'r moron, tomatos, stoc, madarch, halen a phupur a'i goginio ar wres cymhedrol am tua 30 munud.
- Llenwi'r sosban gyda dŵr a phinsied o halen a'i ferwi.
- Ar ôl i'r cig goginio rhoi'r spaghetti yn y dŵr berw a'i goginio yn ôl y cyfweliadau (fel arfer tua 9 munud).
- Hidlo'r spaghetti mewn rhidyll neu golandr.
- Rhoi'r spaghetti mewn powlen fawr ac ychwanegu'r saws
- BUON APPETITO!
Cyfweliad 01—
Holi Al
PWY WYT TI?
Alun Williams.
OEDRAN?
21...Onest!
O BLE?
Rhuddlan (Sir Ddinbych).
BLE WYT TI'N BYW?
Caerdydd.
Y PETH GORAU AM DY SWYDD?
Cael teithio'r byd, 'dani'n lwcus iawn, iawn, iawn!
Y PETH GWAETHAF AM DY SWYDD?
Treulio oriau yn gwrando ar Ant yn siarad yn ddi-stop am bysgota...blinedig iawn!
HOFF FWYD?
Pizza pepperoni heb y pepperoni.
CAS FWYD?
Yn gyffredinol, unrhywbeth coch, melyn neu wyrdd.
HOFF LE O'CH TAITH "ANT AC AL"?
Portofino, Yr Eidal
3 GAIR I'CH DISGRIFIO?
Siaradus, hilariws a boncyrs!
3 GAIR I DDISGRIFIO ANT?
Trwyn. Mawr. Iawn.
EICH GAIR OLAF?
Y?
Cyfweliad 02—
Holi Ant
PWY WYT TI?
Anthony Evans.
OEDRAN?
21, jyst fel Al, he he!
O BLE?
Prif ddinas y byd - Gorslas!
BLE WYT TI'N BYW?
Gorslas wrth gwrs, ychan!
Y PETH GORAU AM DY SWYDD?
Gweld Al yn poeni am bob peth... Ha ha!
Y PETH GWAETHAF AM DY SWYDD?
Gorffod bod yng nghwmni Al ar y ffordd pan mae e eisiau ty bach a rhif 2... ych!
HOFF FWYD?
Stecen Kobe....mmmmm!
CAS FWYD?
Bwydydd poeth a sbeislyd.
HOFF LE O'CH TAITH "ANT AC AL"?
Sai'n shwr 'to!
3 GAIR I'CH DISGRIFIO?
Pendant.... yyymm.... Ie!
3 GAIR I DDISGRIFIO AL?
Pwdryn.. babi.. twpsyn.. slej.. ffrind da!
EICH GAIR OLAF?
Ychan!

