Stamina - Chwaraeon a chwys!
*** Yn anffodus mae problem dechnegol wedi bod gyda cystadleuaeth Stamina, a fyddi di methu cystadlu ar hyn o bryd. Ry'n ni'n ymddiheuro am hyn, ond cofia ddod nôl yma eto am rhagor o wybodaeth yn fuan iawn.***
Byddwch yn barod am lwyth o wybodaeth am wahanol chwaraeon mewn cyfres newydd sbon o Stamina! Bydd Cynan a Holly yn ein stiwdio newydd am sgyrsiau difyr gyda sêr y byd chwaraeon heddiw, a sêr y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd ein gohebydd ar grwydr, Hannah, yn dod ag adroddiadau i chi o leoliadau gwahanol a champau amrywiol.
Ac ar ben hyn oll mae gyda ni gêm stiwdio newydd sbon, Grand Slam. Bydd pob gwestai yn cael cyfle i’w chwarae, a chawn weld ar ddiwedd y gyfres pwy fydd ar frig y tabl â’r sgôr uchaf! Felly gwnewch yn siŵr fod ganddoch chi’r Stamina bob wythnos i wylio!
