Tara Bethan - Gwestai: Tachwedd 13
Ynglyn â'r gwestai

Mae Tara wedi bod yn dipyn o seren ers ei fod yn ferch fach – wel, os eich tad yw reslar gorau Cymru, El Bandito, sut allwch chi beidio bod yn ran o fyd “showbiz”?! Mae hi wedi canu gyda’r band Cic, a wedi bod yn seren West End Llundain yn sioe Bugsy Malone ac yn actores mewn cyfresi fel Caerdydd.
Mae Tara yn chwarae rhan Mia yn sioe sôs a sbloets ‘Mama Mia’ ar Planed Plant – mae hi’n ei chael hi’n anodd IAWN i gadw trefn ar Mama, ond mae hyn yn ddigon o ymarfer ar gyfer cadw trefn ar ddawnswyr Dawnstastig!
Mae Tara wedi ymddangos ar lwyfannau ers pan oedd yn bedair oed. Mae hi wedi canu a dawnsio ei ffordd i’r top – a nawr mae hi yn feirniad ar Dawnstastig, yn edrych allan am sêr newydd dawnsio Cymru. Tybed a fydd hi yn feirniad creulon neu caredig? Bydd rhaid gwylio i weld!
Dyma eich cyfle i holi unrhyw gwestiwn dan haul i Tara – beth hoffech chi wybod amdani a’i bywyd? Gallwch yrru eich cwestiynau ati yma, 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos!
Eich cwestiynau
1jac
beth yw dy hoff hold reslo di??
siarlycyntaf
Beth sydd well da ti Pizza neu cinio dydd Sul?
fred
Pryd nes di godi cwilydd ar dy hyn dwetha?
delvis
Beth wyt ti'n hoffi fwyaf, canu, dawnsio neu actio?
ceridwen
Pryd a sut ddechreuodd dy ddiddordeb mewn dawnsio?
dwd123
Pa gyngor fydde ti'n ei roi i rhywun sydd eisiau dilyn gyrfa fel actores?
1jac
pwy oedd dy arwr pennaf pan yn ifanc
1jac
oes gyda ti anifail anwes, ac os felly beth yw e, a beth yw ei enw?
tebz
Faint o debygrwydd sydd rhwng Nikki, dy gymeriad ar Rownd a Rownd, a Tara?
jamsponge
Petai ti'n penderfynu dilyn yr un yrfa a dy dad, be fydde ti'n dewis fel ffugenw reslo?


