Sarra Elgan - Gwestai: Tachwedd 06
Ynglyn â'r gwestai

Mae'n bert, yn hoffi chwarae gyda phaent ac wrth ei bodd yn gwylio rygbi - hi yw gwestai cyntaf stiwdio newydd Planed Plant, pwy arall ond Sarra Elgan?!
Mae eich cwestiynau chi wedi cael eu danfon ati - am rygbi, celf neu hyd yn oed ffasiwn (sef hoff bwnc Sarra wrth gwrs!)
Mae rygbi yn rhan o fywyd Sarra, gan ei bod yn briod â Simon Easterby, sy'n chwarae rygbi dros Sgarlets Llanelli ac Iwerddon. Roedd tad Sarra ,Elgan Rees yn chwaraewr dros Gymru nôl yn y 70au hefyd!
Wrth gwrs, uchafbwynt ei gyrfa fydd bod yn westai cyntaf stiwdio newydd Planed Plant! Dechreuodd Sarra ei gyrfa fel cyflwynydd ar Planed Plant felly tybed os oes ganddi dipiau i Meleri a Geraint?
Eich cwestiynau
llinos
Oes unrhyw un yn canu yn Gymraeg nawr sydd mor dda ag oedd CIC?
ceridwen
Pwy fydde ti'n ei ddewis fel rheolwr newydd tim Cymru?
ceridwen
Pan fod Cymru'n chwarae Iwerddon - pa dim wyt ti'n ei gefnogi?
jamsponge
Pwy yw dy hoff chwarewr rygbi? Ond sdim hawl gyda ti ddweud dy wr Simon!
heli
Dwayne Peel neu Stephen Jones?
heli
Petae ti dal yn CIC, a fydde chi'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth fel yr X Factor?
llinos
Pwy yw dy hoff fand Cymraeg?
annie
Roedd gwallt coch/brown gen ti yn ddiweddar, ond nawr mae'n felyn, pa liw gwallt sydd orau gennyt?
annie
Rwyt ti wastad yn edrych yn gret. Oes gen ti steilydd neu wyt ti'n dewis beth ti'n gwisgo
heli
Beth yw uchabwynt dy yrfa hyd yma?


