1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Dr Robyn Wheldon Williams - Gwestai: Rhagfyr 18

Llun o Dr Robyn Wheldon Williams

Dydi gwyddoniaeth byth yn ddiflas pan mae hwn wrthi - gwestiau'r wythnos yw gwyddonydd pennaf Atom, Dr Robyn Wheldon Williams!

Mae Dr Robyn yn athro cemeg yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, a mae e hefyd wedi bod yn creu sioeau cemeg o amgylch Cymru, mae e hyd yn oed wedi ffrwydro pethau ar faes yr eisteddfod!

Ar wahan i ffrwydro pethau, mae Robyn yn hoff iawn o bêl-droed (yn enwedig tîm Lerpwl!) ac yn chwarae golff, tenis a sboncen. Mae'n hoffi ceir cyflym - yn enwedig Ferraris coch. Efallai mai dyna pam taw coch yw ei hoff liw?!

Ei hoff gymysgedd cemegol o fwyd yw cyri - a dydi Dr Robyn methu aros i fynd i'r gofod, tybed a bydd NASA yn gadael iddo gael trip ar wennol ofod rhyw ddydd? Falle ddim os yw'n trio gwneud arbrofion fel y rhai ar Atom!

Dyma eich cyfle i holi Dr Robyn am unrhywbeth dan haul - beth sy'n eich drysu chi am wyddoniaeth? Dyma'r dyn bydd yn gwybod y cyfan!

Eich cwestiynau

bledd1

sawl seren sydd yn ein bydysawd?

martymcfly

Shwt mae magnets yn gweithio?

sparkle

O ble ddaeth dy ddiddordeb mewn gwyddoniaeth?

martymcfly

Os fydde ti'n cael cyfle i fynd i'r gofod pwy fydde ti'n mynd gyda ti, Heledd neu Alun?

ceridwen

Pa arbrawf yw'r un mwyaf peryglus i chi drio?

tebz

A oes unrhyw arbrawf wedi mynd o'i le gyda chi?

cardibach

Beth yw dy hoff elfen a pham?

martymcfly

Faint mae'r ddaear yn pwyso?

bledd1

faint o arian sydd yn y byd?

hanamontana

pam bod gwallt yn troi'n wyn?

1jac

Beth sydd yn digwydd os wnewch chi geisio suddo darn o fetel yn gyfangwbl mewn hylif ?

tebz

Sut ddechreuodd dy ddiddordeb mewn gwyddoniaeth?

ceridwen

Beth yw'r gwrthrych MWYAF i chi ei ffrwydro?

tebz

Beth yw eich hoff arbrawf a pham?

shearer9

Pa mor dda yw Alun am ddysgu pethau gwyddonol?

cardibach

Beth yw’r arbrawf mwya’ peryglus a chyffrous rwyt i erioed wedi gwneud?

dafyddwms

beth ydy atom?

martymcfly

Pam mae'r awyr yn las?

martymcfly

Rydyn ni'n gallu teimlo gwres o'r haul ar y ddaear felly pam mae hi mor oer yn y gofod er fod yr haul yr un pellter i ffwrdd?

martymcfly

Beth yw twll du?

martymcfly

Beth daeth gynta yr wy neu'r iar?

1jac

A fydd hi'n bosib rhywbryd yn y dyfodol i drafeili mewn amser fel dr. who ??

Sion Corn

Sut mae troi hearn yn aur, ma dolig wedi costio yn fawr imi leni ac ma eisiau help arnai. Diolch yn gywir, Sion Corn

James

Wyt ti'n hoffi dyfeisio?

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.