Nigel Owens - Gwestai: Tachwedd 20
Ynglyn â'r gwestai

Ar y cae rygbi, hwn yw’r dyn sydd wastad yn rheoli’r gêm – y dyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens!
Mae Nigel yn ddyfarnwr yn nghwpan Heineken ers tro, ond mae Nigel hefyd wedi bod yn ddyfarnwr rygbi rhyngwladol ers 2005, ac yn ddiweddar mae e wedi bod yn dyfarnu yn nghystadleuaeth cwpan y Byd 2007 – ei gêm gyntaf oedd Yr Ariannin yn erbyn Georgia. Nigel oedd yr unig ddyfarnwr Cymraeg i ddyfarnu yn Nghwpan y byd eleni – da iawn Nige!
Mae Nigel yn tipyn o seren oddi ar y cae hefyd, gan iddo ymddangos ar raglen Jonathan, mae’n cael ei orfodi i wneud llawer o bethau gwyllt a gwirion i’r camera, ond Rowland Phillips yw’ un sy’n edrych wirionaf bob tro! Gyrrwch eich cwestiynau mewn i Nigel unrhyw bryd yma ar Mwy. Oes unrhyw reolau Rygbi nad ydych yn eu deall? Neu y’ch chi am wybod os yw Rowland mor wallgof go-iawn?! Gallwch ofyn unrhyw beth iddo a bydd eich cwestiwn yn fyw ar yr awyr!
Rydy’n ni’n edrych mlaen i weld Nigel yn stiwdio Planed Plant ddydd Mawrth, gobeithio na fydd Geraint yn mynd mlaen a mlaen am bêl-droed gormod!
Eich cwestiynau
jamsponge
Faint o amser wyt ti'n treulio'n swotto lan ar reolau rygbi?
jamsponge
Pam wnes di ddewis Dyfarnu yn hytrach na Chwarae rygbi?
anya104
Beth wyt tin hoffi wneud yn dy amser sbar ?
mwd123
Beth wyt ti'n mwynhau ei wneud fwya, dyfarnu neu serennu ar raglenni fel Jonathan?
mwd123
Pwy sydd fwya doniol, ti neu Rowland Philips?
ceridwen
Sut brofiad oedd cael dy ddewis i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd 2007?
martymcfly
Wyt ti byth wedi gwneud camsyniad tra'n gwneud penderfyniad mewn gem?
sioniwyllt
Wyt ti erioed wedi anafu dy hun tra'n dyfarnu?
1jac
Wyt ti'n cael hi'n anodd i ddyfarnu gêm ddi stop am wyth deg munud?
1jac
Pwy yw dy arwr di fel referee ?


