Nia Parry - Gwestai: Rhagfyr 11
Ynglyn â'r gwestai

Dyma gyflwynydd sy’ byth yn cael trafferth siarad – mewn pa bynnag iaith, croeso i Nia Parry!
Mae Nia yn gyflwynydd enwog ar S4C – ac er nad ydi hi yn dysgu Cymraeg i selebs fel Tanni Gray-Thomson ar Welsh in a Week rhagor, mae hi yn ymarfer dysgu ieithoedd i’w hunan. Mae hi’n siarad Sbaeneg, Ffrangeg, Iaith Arwyddion Prydain a Thyrceg hyd yn oed, gan ei bod wedi bod yn byw yn Nhwrci!
Erbyn hyn, mae hi yn fwy enwog am fusnesa mewn i gypyrddau dillad selebs Cymru na’u dysgu i siarad Cymraeg – ond beth am ei dillad hi ei hunan? Mae hi yn ffan mawr o ddillad sgleiniog a phinc! Tybed os y bydd hi’n gallu perswadio Geraint mewn i grys pinc?
Mae Nia hefyd wedi cyflwyno o’r Sioe Frenhinol eleni – felly bydd gan Meleri a hithau ddigon i siarad amdano pan ddaw hi mewn ddydd Mawrth!
Eich cwestiynau
lola
Beth yw'r dilledyn mwya embarrasing wyt ti wedi ei wisgo or blaen?
hanamontana
os wyt ti'n mynd allan a mae un o dy ffrindiau di yn gwisgo dillad afiach, bydde ti yn dweud wrthi hi?!
jamsponge
O ran steil dillad, pa gyfnod byddet ti wedi hoffi byw ynddo fo?
cardibach
Pa wallau ieithyddol sy'n dy wneud yn flin?
kimpossible
haia nia! yn cwpwrdd dillad pa seleb bydde tin lico edrych am gyfrinachau?
jamsponge
Beth yw'r dilledyn mwya' afiach rwyt ti wedi'i weld mewn cwpwrdd dillad - a dilledyn pwy oedd e?
jambo
Gymerodd hi amser hir i ddysgu iaith arwyddion?
angharadg
Beth yw dy hoff fwyd ?
alys123
Beth yw gorau busneusa i fewn i cwpwrdd ddillad neu dysgu cymraeg i bobol?
lola
Beth yw'r eitem fwya drud sydd gen ti yn dy gwpwrdd?
serenwib
Pa iaith oedd yr un anodda i ddysgu?
sioned
Pa un o'r Spice girls sydd gyda'r steil orau?
hanamontana
os byddai ti yn cael unrhyw anifail anwes, beth fyddai e?
scrat95
pa seren bydde ti yn hoffi dysgu cymraeg iddyn nhw?
hanamontana
cwpwrth dillad pa seleb bydde ti'n hoffi dwyn?
lola
Beth yw dy hoff ddilledyn erioed?

