1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Dylan Ebeneser - Gwestai: Rhagfyr 04

Llun o Dylan Ebeneser

Mr Chwaraeon BBC Radio Cymru – dyma fo, Dylan Ebenezer!

Mae Dylan yn dod o Aberystwyth, a wedi gweithio ar Radio lleol yno, ond erbyn hyn mae yn byw yn y ddinas fawr ddrwg, Caerdydd, ac yn darlledu chwaraeon i’r genedl gyfan!

Mae e wedi bod yn cyflwyno ar Radio Cymru ers 1997, ac erbyn hyn mae’n cyflwyno chwaraeon Radio Cymru ar ddydd Sadwrn ar raglen Camp Lawn. Yn wahanol iawn i’n Geraint ni, mae Dylan yn ffan mawr o dîm pêl-droed Arsenal, gobeithio na fydd y ddau yn dadlau gormod am eu timau!

Beth hoffai chi wybod am Dylan? Pwy mae e wedi eu cyfweld? Beth yw ei hoff atgof o fyd Chwaraeon? Ydi Eleri Siôn yn gwybod mwy am rygbi nag yw e? Gallwch holi’r cwestiynau hyn i gyd iddo, a mwy. Byddwch yn fusneslyd!

Eich cwestiynau

cardibach

Mae nifer o sylwebwyr pel-droed yn dweud pethau hurt iawn weithiau – wyt ti erioed wedi dweud rhywbeth sili yn fyw ar yr awyr?

jamsponge

Pwy yn dy farn di yw’r pel-droediwr gorau erioed a pham?

sparkle

Bydden i’n hoffi petai Jose Mourinho yn cael swydd rheolwr tim pel-droed Lloegr - pwy wyt ti’n meddwl ddylai gael y swydd?

shearer9

Rwy’n cefnogi Newcastle United achos bo fi wedi byw yn Newcastle ond pam wyt ti’n cefnogi Arsenal?

martymcfly

Wyt ti'n cytuno taw Roberto Martinez yw un o'r rheolwyr ifanc gorau yn Mhrydain ar hyn o bryd? + Siwd lwc wyt ti'n credu fydd Abertawe yn cael tymor 'ma?

martymcfly

Wyt ti'n credu fod siawns gyda Cymru yn ei grwp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd?

martymcfly

Fydd Arsenal yn gallu mynd yr holl ffordd ag ennill y Premiership tymor 'ma neu ydy'r tim yn rhi ifanc ac yn ddi-brofiad?

martymcfly

Beth oedd y gem pel-droed cyntaf i ti weld?

martinez

Wyt ti'n teimlon fod 'na gormod o chwaraewyr o dramor yn chwarae ym Mhrydain?

martinez

Os fydde ti'n gallu dewis unrhyw chwaraewr o dim arall i chwarae i Arsenal pwy fyse ti'n dewis?

martinez

Wyt ti wedi cael cyfle i ymweld a stadiwm yr Emirates eto?

charliebrown

Beth yw dy farn di am y Cwpan Celtic newydd?

charliebrown

Wyt ti'n credu fydd Wrexham yn gallu aros yn League 2 nawr fod gyda nhw Brian Little fel rheolwr?

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.