Alex Jones - Gwestai: Tachwedd 27
Ynglyn â'r gwestai

Hip neu Sgip?, Cân i Gymru a Popty Bobman, pwy sydd wedi cyflwyno’r rhain i gyd, a mwy? Wel, Charlotte Alexandra Jones wrth gwrs! (wps, sori Alex!)
Mae’r cyflwynydd dawnus o Sir Gâr yn barod i fentro i stiwdio Planed Plant ddydd Mawrth, gobeithio bydd hi ddim yn ei baentio yn debyg i’r llofftydd ar Hip neu Sgip! Gan ei bod hi yn cyflwyno ar Popty bobman mae Alex yn dechrau dod yn chydig o frenhines karaoke, ei hoff drac i ganu yw Road Rage gan Catatonia. Cofiwch ei holi am y band wnaeth hi greu yn y coleg... roedd hi yn dipyn o seren X Factor yr adeg yna!
Ymysg y criw mawr o selebs mae Alex wedi cwrdd â nhw yw Posh ei hunan, Victoria Beckham! Does dim sôn os oedd Posh wedi cael dychryn bod Alex mwy cŵl na hi, ond gafodd Alex sbort, meddai hi “ oedd Posh yn lyfli, a eitha' doniol ware teg!”. Mae Alex wedi bod yn actio hefyd, wel, actio munchkin yn nghynhyrchiad yr ysgol o’r Wizard of Oz, druan!
So, ydi Mel mor cŵl â Posh? Ydi gwallt Ger mor dda â ‘do’ enwog Hefin? Gofynnwch y cwestiynau hyn a mwy i Alex pan fydd yn y stiwdio yn FYW dydd Mawrth!
Eich cwestiynau
dygs456
Pryd fydd y gyfres newydd o Hip neu Sgip ar y teledu?
cath123
Sut dachi'n dewis y plant sy'n cymryd rhan yn Hip neu Sgip?
gwynnie
Pwy yw dy hoff grwp/band?
lola
Mae hi'n amlwg dy fod ti'n hoffi cerddoriaeth gan dy fod ti'n cyflwyno Popty ac wedi cyflwyno Cân i Gymru. Wyt ti'n mwynhau canu carioci ac os wyt ti pa gân fyddi di fel arfer yn canu?
cath123
Pwy ydy'r person mwya enwog ti erioed wedi'i gyfarfod?
lili123
Beth fydde'r peth gwaetha all rhywun ei wneud i un o'r stafelloedd yn dy dy di?
jamsponge
Pwy yw'r person anodda' ti erioed wedi cyfweld?
candifflos
Wyt ti'n meddwl bod enwau bandiau yn mynd yn fwy gwirion ?
jamsponge
Bydde ti'n lico fod ar Strictly Come Dancing fel Gethin?
cath123
Sut fydde ti'n disgrifio steil dy dy mewn 3 gair?
gwynnie
Petae ti'n cael edrych ar ol Anifail am Wythnos pa anifail fydde ti'n ei ddewis?
Bala-Wa
Helo Alex! Be sydd gen ti nesa ar y gardiau? Ei di byth i America i weithio? x
gwynnie
Ym mha gyfnod fydde ti ' di hoffi byw- o ran y bwyd a'r dillad?
Beth
Pa car sydd gen ti?


