Proffeils y cyflwynwyr
Meleri
Enw llawn
Meleri Ann Williams
Oed
22
O le?
Cwrtnewydd, Llanybydder
Be oeddet ti eisiau bod pan oeddet ti'n blentyn?
Enwog!
Ai dyma y tro cyntaf i ti fod ar y teledu?
Na. Yn y gyfres gyntaf o Wawffactor fe gyrhaeddes i'r wyth olaf.
Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf i gyflwyno Planed Plant?
Y cyffro o gyflwyno ar deledu byw.
Pwy yw dy hoff gyflwynydd ar y teledu?
Eleri Siôn
Beth yw dy ddiddordebau di?
Canu, actio, dawnsio, chwaraeon a ffermio (gan fy mod wedi fy magu ar fferm).
Sut fyddet ti'n disgrifio dy hun mewn 3 gair?
Trwsgl, egnïol, a swil (weithiau!)
Beth yw dy hoff liw?
Lliwiau llachar y 60au a'r 70au - lot o binc a phiws.
Hoff le?
Y traeth yn Llanrhystud.
Beth oedd y CD gyntaf a'r olaf i ti ei phrynu?
Pan o'n i yn fach, doeddwn i ddim yn prynu CDs. Y CD olaf i mi ei phrynu oedd Joe Cocker i fy nghariad.
Hoff frechdan?
Naill ai Chicken Tikka neu frechdan ham, côlslo a chiwcymbr.
Hoff ddiod?
Dŵr
Hoff ffilm?
The Mask.
Geraint
Enw llawn
Geraint Wyn Hardy
Oed
22
O le?
Efail Isaf ger Caerdydd
Be oeddet ti eisiau bod pan oeddet ti'n blentyn?
Gôl-geidwad i Man U, ond yn anffodus doeddwn i ddim yn ddigon tal!
Ai dyma y tro cyntaf i ti fod ar y teledu?
Na. Rwy’ wedi actio ar Jara, Cowbois ac Injans ac mewn hysbyseb Cadburys sy'n cael ei ddangos cyn Coronation Street.
Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf i gyflwyno Planed Plant?
I gael teithio o amgylch Cymru yn cwrdd â plant.
Pwy yw dy hoff gyflwynydd ar y teledu?
Dermot O'Leary a Fearne Cotton.
Beth yw dy ddiddordebau di?
Chwaraeon – pêl-droed, rygbi a golff.
Sut fyddet ti'n disgrifio dy hun mewn 3 gair?
Hapus. Hamddenol. Uchelgeisiol.
Pa 3 pheth fyddet ti'n mynd efo ti ar ynys bellennig?
Pêl gron, Clustog a PSP.
Beth yw dy hoff liw?
Coch.
Hoff le?
Fy ngwely. Rwy’n caru fy ngwely!
Beth oedd y CD gyntaf a'r olaf i ti ei phrynu?
Ant & Dec- PG and Duncan oedd y gyntaf (ond peidiwch â dweud wrth Meleri!) a'r un olaf oedd Paolo Nutini.
Hoff frechdan?
Brechdan creision halen a finegr
Hoff ddiod?
Diod Oren
Hoff ffilm?
Braveheart.





