1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Torri Gwallt, tynnu coes!

Fel arfer dydw i ddim yn rhy hoff o fynd i dorri fy ngwallt. Ma nhw o hyd yn i dorri e yn rhy fyr ac yn gwneud be ma nhw moyn gwneud yn hytrach na be i chi moyn i nhw wneud. Ond heddiw i fi’n edrych ymlaen i fynd oherwydd ma’r dyn sy’n torri fy ngwallt wrth i fodd gyda Lerpwl, ac gan bod nhw di colli yn erbyn Chelsea nos Fercher a bod Man Utd wedi curo Barcelona ma gyda fi digon o reswm i dynnu ei goes trwy’r bore. YEY. Ond wedi meddwl falle bod hynny ddim yn syniad da, falle neith e rhoi toriad gwael i fi. O Ohhh, sain credu bo fi di meddwl hwn drwodd yn iawn......

gan Geraint ar 06 Mai, 2008

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.