1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Blog

Sdeddfod yn Nghaerdydd

Helo! Shwmai, sori bo fi heb blogio ers sbel, wedi bod yn brysur! Nes i fwynhau y Sioe Frenhinol a gewld ambell un o chi lan ‘na hefyd. A nesa y Steddfod Genedlaethol. Fyddai ‘na a gobeithio na’i weld rai o chi hefyd! Dewch draw i weld ni ym mhabell…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 01 Awst, 2008

Mel yn grac!

Brynes i fflip fflops, ac ar ol gwisgo nhw am 10 munud, o’n i’n methu cerdded o gwbwl! O’n i’n grac! Felly, es i a nhw nol i’r siop a ges i fy arian i gyd yn ol. Diolch byth, neu fydden i’n fwy crac! A byddwch chi gyd yn…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 18 Mehefin, 2008

Ma' Ger nôl!

Haleliwia! Ma’ Ger nol ‘da fi o’r diwedd. Odd e fel colli fy nghoes dde am wythnos! Felly Ger, neges fach i ti, paid a mentro mynd i Dwrci neu i unrhyw wlad arall am wythnos o wyliau am sbel! Diolch.

Darllen mwy...

gan Meleri ar 15 Mehefin, 2008

Diwedd yr Eisteddfod

Wel ma’r steddfod drosodd! Nes i fwynhau mas draw, yn enwedig siarad da’r holl gystadleuwyr. Rhan fwyaf ohonoch chi wedi cael cam, ond un neu ddau wedi bod yn llwyddiannus. Nes i fyth cael llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd! Fy uchafbwynt oedd mynd ar y bumper cars da Ger, oedd…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 03 Mehefin, 2008

Ger neu Mel sy' yna?!

Helo Ger sy ma ar gyfrifiadur Mel, fi wedi dwyn e am 5 munud, dyw hi ddim yn gwbod achos mae’n neud paned o de a choffi yn un i hunan. A dyw hi ddim yn neud diod i fi achos does dim angen diod arna i, dwi ddigon clyfar…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 19 Mai, 2008

Cwn bach bach!

Wel ma’r cwn bach yn tyfu, wedi dechrau agor eu llygaid, ond dal yn methu gweld dim byd. Nai drio tynnu llun ohonyn nhw dros y penwythnos i ddangos i chi gyd. Ond, byddwch chi gyd ishe un wedyn ‘ny! Sdim ots da fi fod y cwn yn mynd i…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 13 Mai, 2008

Tywydd braf a cwn bach

Helo, helo, helo!! Wel ma’r haf wedi cyrraedd! Mae hi mor boeth yn y stiwdio yn y tywydd ‘ma. Ond dim ots achos well ‘da fi’r haul na glaw unrhyw ddydd. Gyda llaw ma 7 ci bach da fi ar y fferm tua 1 wythnos oed. Dydi nhw heb agor…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 08 Mai, 2008

O Sdeddfod i Sdeddfod!

Wel ma’r steddfod ar y gorwel! Gobeithio bo pawb wrthi’n ymarfer bob nos o flaen y drych, neu o flaen mam neu dad. Fi’n cofio mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Wrecsam a wnaeth y car dorri lawr!! O’n i’n canu’r ddeuawd da’ mrawd a dawnsio disgo unigol, ond ges…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 30 Ebrill, 2008

Siarad da'r anifeiliaid

Canol yr wythnos yn barod hwre! Ble ma’r bwti yfory ac yna ma’r penwythnos bron gyda ni. Methu aros i fynd adre i weld fy ffrindiau ( yr anifeiliaid hynny yw!) ac i ddala lan da nhw. Fi wastad yn siarad da’r anifeiliaid achos dy’n nhw byth yn ateb nol…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 16 Ebrill, 2008

MESS MAWR!

Weloch chi Ble ma’r Bwti ddoe? Wel na be oedd llanast! Drueni a Ger Gethodd e tua ugain pei cwstard yn ei wyneb. A dylsech chi ‘di gweld stad y stiwdio – ANHYGOEL. Fi’n credo nethodd yr helpwyr handi fwynhau ei huanin hefyd, ond ddim cymaint a Ger. Cofiwch bob…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 11 Ebrill, 2008

← Blaenorol (Tudalen 1 o 5) Nesaf →

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.