Brynes i fflip fflops, ac ar ol gwisgo nhw am 10 munud, o’n i’n methu cerdded o gwbwl! O’n i’n grac! Felly, es i a nhw nol i’r siop a ges i fy arian i gyd yn ol. Diolch byth, neu fydden i’n fwy crac! A byddwch chi gyd yn falch i glywed, ers hynny fi wedi cael par deche a chyfforddus dros ben.
Ond be fi ishe gwbod yw... pam nad oes hawl ‘da fi i wisgo fflip fflops yn y stiwdio? Ma nhw’n llawer mwy cyfforddus na’r ‘stillettos’ ‘ma a hefyd bidden i’n cwmpo llai mewn fflip fflops! Felly a wneith rhywun ateb fy ngwestiwn?!?!

