1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Mel wedi mynd :-(

Wel wythnos yma tra bo fi’n gweithio yn galed iawn, ma Meleri wedi mynd adre i’r fferm i ymlacio. Iawn i rai! Felly Meleri, gobeithio bo ti’n meddwl amdana i yn gweithio yn galed. Ond newyddion mawr o lawenydd... mawr! Ma' Alex wedi ymuno gyda fi yn y stiwdio am yr wythnos. Iei!Ac hefyd i ni wedi symud nol i’n stiwdio gwreiddiol. Nath'o chi sylweddoli bo ni wedi symud ac wedyn mynd yn ôl? Hei hei, clyfar ontife?!

Ond newyddion trist nawr, na'th fy nhîm pêl-droed golli unwaith eto neithiwr, y 3ydd gem yn olynol. O diar. Ni nawr yn 5ed  allan o 7 yn y gynghrair. Problem yn fy marn i. Ond ar ôl i fi chwarae es i adref i weld Andy Murray yn ennill. Gornest a hanner, o'dd e yn wych. Felly pob lwc i Andy Murray yn erbyn Nadal. Fyddai angen  pob gronyn o lwc yn fy marn i. Cofiwch Pigo Trwyn Pwy wythnos yma.

Welai chi’n fuan. Taraa!

gan Geraint ar 01 Gorffennaf, 2008

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.