Helo, i fi nol o’r diwedd o fy ngwylie yn Nhwrci. Ges i amser braf iawn, o’dd y tywydd yn boeth, y bwyd yn grêt a’r jet skis yn hyd yn oed yn well. Os byswn ni yn byw ar bwys y mor dyna’r peth cynta fyswn ni yn neud, prynu jet-ski. Gymaint o hwyl a sbri o’dd e’n grêt.
Ond ma’n rhaid i fi gyfadde, ma fe’ n neis i ddod nol, a diolch byth o’dd Meleri ddim di gwneud unrhyw dric cas arna i tra bod fi i ffwrdd. Beth bynnag, mae pencampwriaeth Ewro 2008 wedi dechrau. Portiwgal i ennill yn fy marn i. Gobeithio bo chi gyd yn iawn ac yn mwynhau y tywydd braf.

