Ma hi mor braf. Iei! Dim glaw yn agos i Gaerdydd ar hyn o bryd, sydd yn golygu llawenydd pur. A sôn am lawenydd pur - Daeth fy nhîm pêl-droed i yn ail yn y gynghrair tymor yma sy’n meddwl bod ni yn symud fyny i gynghrair rhif 2. Iei! Felly digon o reswm i ddathlu. Cofiwch hefyd 15 diwrnod i fynd tan yr Eisteddfod. Byddwn ni yno felly cofiwch ddod i ddweud helo, ac hefyd danfonwch eich lluniau mewn ato ni os i chi yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod ar hyn o bryd- ebost y stiwdio yw mwy@s4c.co.uk
Ble Ma’r Bwti fory hefyd. Edrych ymlaen at y llanast!!

