Llaw lan pwy sy’n mwynhau’r gwylie haf? FIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIII!
O ydw, dwi wedi bod yn hynod o brysur dros y gwylie hyd yn hyn, yn mwynhau cwmni fy ffrindie ac eich cwmni chi. Oedd hi mor neis I gyfarfod chi gyd yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ac yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, er sain siŵr os nath rywun guro fy sgôr I yn Pry-Bop.
Hefyd dros y gwylie es i, i Wembley i wylio Man Utd yn chwarae Portsmouth yn y Charity Shield, gem gwael ond profiad gwych o gael bod yn stadiwm anhygoel ac ma gweld Utd yn curo o gicie o’r smotyn o hyd yn fy atgoffa i o’r noson gwych na lle nath Utd guro Chelsea yn ffeinal Cwpan Ewrop. Iei!!
Ond ma rhestr yn parhau, fel o ni’n dweud I fi di bod yn fachgen prysur es i i Gaeredin ar gyfer gŵyl Caeredin i wylio bach o ddrama a gweld fy ffrindie yn perfformio. Pedwar diwrnod llawn hwyl a sbri. Ond nawr ma’r newyddion drwg yn dod... o'n i fod i fynd dros y penwythnos i ŵyl gerddoriaeth V, ond ar ôl fy holl deithio a joio…..I FI NAWR YN SAL ac bu raid i fi ddod adre diwrnod yn gynnar. Ie, newyddion trist, ac dwi wedi bod yn fy nghywely am y tri diwrnod dwethaf. Felly bach o gydymdeimlad os gwelwch yn dda…….helo bach o gydymdeimlad wedais i…….Aaa, Diolch!
Ond pythefnos o wylie I fynd felly unwaith I fi’n well, mwy o joio joio joio. Parti Pen-blwydd Nain yn 80 penwythnos yma felly trip bach i ddinas gore’r Gogledd, Bangor Dydd Gwener ac I ŵyl Faenol www-hww!. Welai chi’n fuan.






