Blog Mwy

Cwn bach bach!
Wel ma’r cwn bach yn tyfu, wedi dechrau agor eu llygaid, ond dal yn methu gweld dim byd.  Nai drio tynnu llun ohonyn nhw dros y penwythnos i ddangos i chi gyd.  Ond, byddwch chi gyd ishe un wedyn ‘ny!  Sdim ots da fi fod y cwn yn mynd i gartref sy da digon o le a bod nhw ddim yn byw tu fewn ty!  Tywydd yn neis fyd!

Gemau mawr iawn
Hip Hip Hwre, Hip Hip Hwre. Do , mi nath Man Utd ennill Cynghrair Lloegr, a fi’n hapus iawn. Dim ond 2 gem pêl-droed o bwys ar ôl tymor yma. Cwpan yr FA gyda Caerdydd yn herio Portsmouth ac wedyn Man Utd yn chwarae Chelsea yn Rownd derfynol cwpan Ewrop. Fi'n croesi fy mysedd mor galed does ddim gwaed ar ôl ynddyn nhw. Felly pawb sy’n darllen hwn, croeswch eich bysedd anwr dros Caerdydd a Man Utd......... Gobeithio bod chi yn croesi nhw........ Oi ti, croesa dy fysedd...... Na welliant. Mwynhewch yr haul!

Tywydd braf a cwn bach
Helo, helo, helo!! Wel ma’r haf wedi cyrraedd!  Mae hi mor boeth yn y stiwdio yn y tywydd ‘ma.  Ond dim ots achos well ‘da fi’r haul na glaw unrhyw ddydd.  Gyda llaw ma 7 ci bach da fi ar y fferm tua 1 wythnos oed.  Dydi nhw heb agor eu llygaid eto!  Ta beth, mwynhewch tu fas tra bo y tywydd da ni!

Hapus yn yr Haul
Ma hi mor braf. Iei! Dim glaw yn agos i Gaerdydd ar hyn o bryd, sydd yn golygu llawenydd pur.  A sôn am lawenydd pur - Daeth fy nhîm pêl-droed i yn ail yn y gynghrair tymor yma sy’n meddwl bod ni yn symud fyny i gynghrair rhif 2. Iei! Felly digon o reswm i ddathlu. Cofiwch hefyd 15 diwrnod i fynd tan yr Eisteddfod. Byddwn ni yno felly cofiwch ddod i ddweud helo, ac hefyd danfonwch eich lluniau mewn ato ni os i chi yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod ar hyn o bryd- ebost y stiwdio yw mwy@s4c.co.uk

Ble Ma’r Bwti fory hefyd. Edrych ymlaen at y llanast!!

Torri Gwallt, tynnu coes!
Fel arfer dydw i ddim yn rhy hoff o fynd i dorri fy ngwallt. Ma nhw o hyd yn i dorri e yn rhy fyr ac yn gwneud be ma nhw moyn gwneud yn hytrach na be i chi moyn i nhw wneud. Ond heddiw  i fi’n edrych ymlaen i fynd oherwydd ma’r dyn sy’n torri fy ngwallt wrth i fodd gyda Lerpwl, ac gan bod nhw di colli yn erbyn Chelsea nos Fercher a bod Man  Utd wedi curo Barcelona ma gyda fi digon o reswm i dynnu ei goes trwy’r bore. YEY. Ond wedi meddwl falle bod hynny ddim yn syniad da, falle neith e rhoi toriad gwael i fi. O Ohhh, sain credu bo fi di meddwl hwn drwodd yn iawn......

Dwbwl arall i Man U?
HELO. I fi nol o fy wyliau o’r diwedd. Teimlo fel bo fi di bod i ffwrdd am amser hir. Ond ges i amser braf ond ma’n rhaid i mi gyfadde ma fe’n neis i fod yn ôl. Er bod y tywydd yn wlyb yma yng Nghaerdydd. Ond be i fi moyn siarad am go iawn yw buddugoliaeth Man Utd neithiwr. Odd e’n anhygoel. I fi mor hapus bod nhw drwyddo i’r rownd derfynol. Gobeithio nawr nawn nhw fynd ymlaen i ennill y Gynghrair ac y Cwpan. A wedyn fyddai yn wen o glust i glust.

Man Utd am y Dwbl. Wwww hww!!

O Sdeddfod i Sdeddfod!
Wel ma’r steddfod ar y gorwel!  Gobeithio bo pawb wrthi’n ymarfer bob nos o flaen y drych, neu o flaen mam neu dad.  Fi’n cofio mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Wrecsam a wnaeth y car dorri lawr!!  O’n i’n canu’r  ddeuawd da’ mrawd a dawnsio disgo unigol, ond ges i ddim llwyfan :-(  Dim ots, nes i fwynhau’r trip!  Pob lwc i bawb yn y Steddfod!

Siarad da'r anifeiliaid
Canol yr wythnos yn barod hwre!  Ble ma’r bwti yfory ac yna ma’r penwythnos bron gyda ni.  Methu aros i fynd adre i weld fy ffrindiau ( yr anifeiliaid hynny yw!)  ac i ddala lan da nhw.  Fi wastad yn siarad da’r anifeiliaid achos dy’n nhw byth yn ateb nol ond ma nhw’n deall yn iawn sut chi’n teimlo.  Triwch chi siarad da’ch pysgodyn, cath neu gi heno.  Mae’n sbort!

MESS MAWR!
Weloch chi Ble ma’r Bwti ddoe?  Wel na be oedd llanast!  Drueni a Ger Gethodd e tua ugain pei cwstard yn ei wyneb.  A dylsech chi ‘di gweld stad y stiwdio – ANHYGOEL.  Fi’n credo nethodd yr helpwyr handi fwynhau ei huanin hefyd, ond ddim cymaint a Ger.  Cofiwch bob dydd iau, BLE MA’R BWTI!

Mel wedi Cynhyrfu HEFYD!
BLE MA’R BWTI NOL!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!! IE!

Geraint wedi cynhyrfu
BLE MA’R BWTI YN OL FORY. O IEEEEEEE!!

Diogi a Chwaraeon
Wel yn 'doedd Dydd Sul yn ddiwrnod grêt?! Nes i godi am 12 o’r gloch, sydd bach yn hwyr, ond pam ddim, odd hi’n ddydd Sul! Ac yna es i i eistedd o flaen y teledu a nes i wylio Y Gweilch yn chwarae, yna recordio Man Utd a gwylio nhw, yna gwylio Caerdydd yn ennill. IEI. Ac ar ôl y gem yna, nes i wylio Y Gleision. O ni wrth fy modd. Trueni dim ond Caerdydd nath ennill,, a llongyfarchiadau mawr i nhw ond o ni mor hapus yn eistedd o flaen y teledu gyda’r holl chwaraeon.

Felly yn syml nes i ddim symud ddoe. Diog ond o’dd e’n GRET!!

Ble mae 'Ble Ma'r Bwti'?!
Wel ma’r pasg bron ar ben.  Felly nol i’r ysgol.  Ond peidwch a becs achos ma’ Ble Ma’r Bwti nol!!!  Ni wedi bod yn gofyn a gofyn am y gêm nôl ac o’r diwedd ma nhw wedi gwrando ar Ger a finne.  Felly nol i’r pei cwstard!  Methu aros.  Cofiwch dydd iau nesa, BLE MA’R BWTI!!!

Triciau
Helo. Sa'i wedi gwneud Blog ers amser maith, felly bant a fi. Gobeithio fod pawb yn mwynhau y gwyliau Pasg. I fi di bod yn brysur iawn gyda 2 sioe y dydd, ond wrth gwrs ges i ddigon o amser i wylio man Utd yn curo Roma neithiwr. Iei! Fi’ gwybod bydd “meilir432” yn hapus gyda’r canlyniad hefyd ar ôl gweld i neges e am gem Man Utd yn erbyn Lerpwl.

Hefyd os odde chi yn gwylio ddoe, fydde chi wedi gweld ein triciau Ffwl Ebrill ni, ma nhw ar y wefan i wylio, a ma nhw’n grêt felly ewch i wylio nhw. Fydde chi yn falch o wybod fy mod i wedi glanhau fy fflat erbyn hyn, ond i fi yn casáu glanhau a cadw’r lle yn daclus, felly os oes rhywun moen swydd i lanhau fy fflat unwaith yr wythnos, cysylltwch gyda fi.

Hefyd aeth y pysgod lawr yn grêt gyda pawb yn y swyddfa, ond fi’n credo  bydd pawb yn ceisio dial yn yr wythnosau nesa, felly well i Mel a fi wylio ei hunain. Beth bynnag, well i fi fynd, a cadwch i roid eich negeseuon ar y negesfwrdd ma nhw’n grêt ac i ni wedi cael llwythi dros y gwyliau felly diolch mawr tew i chi.

Dal yn bwyta siocled
Wel ma’r Pasg wedi cyrraedd, ma’n teimlo fel petai e drosodd i fi yn barod gan bo ni’n gorfod gweithio!  Ond dim ots digon o wyau Pasg ar y set i fwyta drwy’r dydd!  Gobeithio bo chi gyd adre yn cael Pasg bach neis a ddim yn bwyta gormod o siocled, achos ma gormod o siocled yn meddwl dannedd gwael!!!  Odw i’n swnio fel mam neu dad nawr?  Dim ots, mwynhewch gweddill y gwyliau!

Gwyliau i chi - bore cynnar i ni!
Gwyliau y Pasg wedi dechrau. Woohooo. Gobeithio bod pawb yn barod am pythefnos, IE PYTHEFNOS o wyliau. I fi wrth fy modd gyda gwyliau hanner tymor, oherwydd bod ni’n gwneud rhaglenni yn y bore hefyd, sydd o hyd yn lot o hwyl. Er ma’n rhaid i mi gyfadde bod codi am 5am, yn bach o boen ond unwaith i fi fyny, i fi wrth fy modd.

Cofiwch i wylio Bob bore am 8 ac wrth gwrs am 4 fel arfer. Dwi hefyd yn edrych ymlaen i ddydd Sul. Man Utd Yn erbyn Lerpwl a Chelsea yn chwarae Arsenal. Penwythnos ENFAWR o ran pêl droed. O ma bywyd yn  braf. Wel mi fydd hi os yw Utd yn ennill. Gobeithio fod pawb yn iawn a welai chi yn gynnar bore fory. Peidiwch a bod yn hwyr.

CAMP LAWN!
Whoopdi Dwwwpi DOOOOOOOOOOO. Da iawn Cymru!

IAAAA HWWWW!
IIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIIHHHHHHHHHHHHHHAAAAAAAAAAAAAAAAA!  DA IAWN CYMRU!!!!!!!!!!!!!!!!!11

Diwedd da i Iii Haa!
O na ma Iiii ha wedi gorffen .  BWWWW!!!  Nes i fwynhau gweld y plant odd erioed wedi bod ar gefn ceffyl o’r blaen yn neud mor dda yn sioe Pontarddulais.  A hefyd gweld sut odd y plant yn trin ei gilydd ar y dechrau i gymharu a sut oedden nhw gyda’u gilydd erbyn diwedd y gyfres.  Fi’n credu bod e’n gweud y cwbwl, gweithio da plant ac anifeiliaid - grêt!!!  Llongyfarchiadau i’r plant i gyd.

Ger sy'n siopa!
Wel Ger, diolch am dy neges.  Ond fi sy ar fy mhen fy hunan heddi achos wyt ti yn siopa am rhagor o ddillad!!!  A gyda llaw fi’n edrych mas trwy’r ffenest, a be fi’n gweld tywydd stormus, gwynt a glaw.  Gret!

Gwyliau gwyliau!
Wel ma’r gwyliau yn agosáu, neis i rai achos ma eraill yn gorfod gweithio!!!  Ond dim ots, achos ma’r rygbi penwythnos yma, methu aros i wylio’r gem o flaen y tân a croesi bysedd wnawn ni ennill.  Fi’n credu fod Cymru yn llawn haeddu’r gamp lawn.  A nawr ma da nhw llawer o hyder i allu ennill dydd Sadwrn.  Pob lwc i chi fechgyn!

Ar ben fy hun
Ar ben fy hun ydw i, o ydw, dwi ar ben fy hun heddi. Dim Meleri heddi :-( Ma hi wedi mynd nol i’r gorllewin yn gynnar, a siwr o fod y foment yma ma hi’n gwisgo ei wellies, yn cnoi gwair yng nghanol ryw gae yn y Gorllewin yn gweddi  “Shwd Ma’n Ceibo”.  Oherwydd dyna gyd ma Ffermwyr yn neud fi’n credu, yw gwisgo lan a gofyn “Shwd Ma’n ceibo” ac yna ateb bob tro gyda’r un ateb. “Ooo joio”

Felly Mel os i ti’n darllen neu fy’n nghlywed i, gobeithio fod hi’n bwrw glaw a bod ti’n nhwlyb domen tra’n Joio ;-)

Trafeilio mewn amser
Blynyddoedd maith yn ol yn yr 11fed ganrif, ganwyd baban a oedd yn edrych yn debyg iawn i Ger! Ond yn anffodus nid Ger oedd e, achos cafodd Ger ei eni yn yr 20fed Ganrif, felly dyw e ddim yn bosib!  Oni bai fod yna ddau o Ger yn rhywle.  Oes oes rhywun yn gwbod mwy, rhowch wbod i mi!

Super-Ger!
1 AWR, 50 MUNUD A 24 EILIAD. Dyna yr amser a gymerodd hi i mi redeg 13.1 Milltir ddoe yn Llanelli. Ma fy nghoesau i yn boenus, fi’n edrych mor wirion yn cerdded o gwmpas y swyddfa! A credwch chi neu beidio ma fy ysgwydd chwith i yn boenus hefyd! I fi’n teimlo cyhyre ar hyn o bryd do ni ddim yn gwybod oedd yn bodoli. Ond i fi mor falch fy mod i wedi gorffen y ras, ac hynny o dan  2 awr, dyna oedd fy nharged, felly fi wrth fy modd. Amser i fi godi o fy nesg nawr i fynd i’r stwdio......AWWWW!!

Marathon a hanner!
Wnaeth Ger redeg hanner marathon dros y penwythnos!  A nes i redeg da’r ceffyl!  Na, chwarae teg, dwi’n methu credu bod e wedi cyrraedd y diwedd, wel am Her i Ger go iawn!

Da iawn ti Ger! :-D

Ceiliog coll!
Wel am benwythnos brysur!  Rhwng teithio i Lanberis, godro, tynnu wyn bach, adeiladu cafn i ddal tato yna gwylio’r gêm o flaen y tan.  Grêt!!!  Ac ar ddydd Sul, un o uchafbwyntiau’r penwythnos, tra o’n i’n torri coed yn y sied wair cyrhaeddodd car y fferm, ac allan o’r car ddaeth crwt sy’n byw lawr y ffordd a bocs yn ei law.  ‘Do you want a cockerel?’ Gofynnodd e, ‘because my father has given him his last warning’.  Y broblem oedd, o’dd na ddau geiliog ‘da nhw, a o’n cwympo mas trwy’r amser, mor wael nes bod gwaed ar ei crib.  Felly cymres i’r ceiliog yn syth, rhoi e mewn cwb a’i fwydo.  Y bore wedyn, gadawes i e allan da’r ieir, ac mae nhw wedi bod yn ffrindiau ‘da hyd yn hyn.

Penwythnos wych
Wel yn doedd Cymru yn wych Dydd Sadwrn? Yn rhoi crasfa go iawn i’r Eidalwyr. Es i i’r gem ag o ni’n eistedd gyferbyn a criw o Eidalwyr ac o ni wrth fy modd yn tynnu ei coesau nhw. Gêm galed i ddod,  ond i fi’n credu bod y Camp Lawn ar y gweill.

A gyda llaw, da iawn i Tottenham yn ennill y Carling Cup ddoe, i fi’n casáu Chelsea felly o ni wrth fy modd yn gweld Jonathon Woodgate yn sgorio gôl fuddugol Spurs. Sôn am bêl droed, fi’n chwarae heno, mae'r tîm ni ar dop ein cynghrair ni ar hyn o bryd, ac yn chwarae'r tîm sy’n ail heno. Felly nai adael chi wybod os natho' ni ennill a’i peidio.

Gobeithio gatho' chi benwythnos da. A cofiwch  i adael neges ar ein negesfwrdd. Fi newydd ddechrau ymgyrch i gael Ble Ma’r Bwti yn ôl, ar ôl i ni dderbyn neges jstuart1234. Felly helpwch yr achos!!

Ma annwyd gyda Ger...
Mae annwyd ‘da Ger. Ha ha ha!!!  Ma fe’n teimlo trueni dros ei hunan ‘fyd.   Fi’n beio’r pel-droedio yn y nôs.  A hefyd buodd e ar fy fferm dydd llun a mae’n rhaid bod e heb arfer â awyr iach go iawn!  Gobeithio na’i ddim dal yr annwyd wrtho!

Blog annwyd
Yn anffodus dros y penwythnos dwi wedi magu ANNWYD. Felly ar hyn o bryd dydi anadlu trwy fy nhrwyn ddim yn opsiwn, a ma' dolur gyda fi yn fy ngwddf. Awwww! Felly, o gymeryd yr uchod i ystyriaeth, fysau chi’n meddwl y bydden i’n cael chydig bach o gydymdeimlad gan Mel. Ond...  Na, sdim ots da Mel o gwbwl, ma' hi’n cario mlaen yr un peth ag arfer. Sain gallu credu’r peth! Merched, na gyd weda i, chi’n dda i ddim! Yr unig berson yn y byd fydde’n rhoi cydymdeimlad i fi nawr yw Mam, ond yn anffodus dyw Mam ddim yma. Druan a fi.

Dydd San Folant
O ydi ma cariad yn yr awyr heddi.  O ni’n lwcus i gael un cerdyn bore ma. Ond os i chi moen danfon mwy ata i, peidiwch a stopio. Anfonwch nhw. Iei! Ond be i fi moen gwbod yw sawl cerdyn gafo chi? Pan o ni’n ysgol oedd dwrnod San Folant yn ddwrnod mawr. Fi’n cofio rhoi fy mersawr gore ymlaen, yn jelio fy nghwallt ac yn cesio prynnu cerdyn erbyn y bore heb i Mam a Dad ffeindio allan bod fi’n ffansio rhywun. Ond dwi’n siwr odd e mor amlwg yn enwedig gan fy mod i wedi jelio fy nghwallt a rhoi persawr ymlaen! Beth bynnag odd e'n lot o hwyl, a gobeithio gatho chi sawl cerdyn bore ma ac falle ambell i bresant.  A falle hyd yn oed cariad newydd. Iei! Gadewch ni wybod trwy’r negesfwrdd clonc ar y wefan!

Dim bai ar y bŵts!
Dim yr esgidiau newydd oedd ar fai am yr anaf i fy mhengîn! Nes i ddisgyn, a wnath coes ryw fachgen enfawr, cyhyrog, sefyll ar fy mhenglîn.  Dyle chi wedi gweld seis y boi, odd e'n ANFERTH! Ar ddamwain nath e sefyll ar fy nhgoes i, ma’n raid i mi gyfadde. AWWW Mawr yn wir. Ond ma fe yn gwella. Diolch i ti am ofyn Mel...?!

Marathon, a hanner!
Ma' Mawrth yr 2ail yn ddiwrnod mawr blwyddyn yma oherwydd dwi’n rhedeg hanner Marathon, sef 13, ie na fe, 13 Milltir. Nawr ma’r dyddiad yn brysur agosáu, ac y pella i fi wedi rhedeg ar hyn o bryd yw 6 milltir. Dwi’n mynd i barhau i redeg y 6 milltir yma trwy gydol yr wythnos yma ac wedyn dwi’n siŵr fyddai ar drac, (ha, chi’n gweld be nes i fyna?!) Trac – Rhedeg a trac?! O fi’n gwneud fi fy hyn i werthin ar adegau ;-)

Ie, felly mi ydw i yn poeni braidd am y ras, sai'n credu fyddai yn gallu gorffen y ras, a ma meddwl am y peth yn gwneud i fi golli cwsg, felly parhau i redeg yw yr unig beth i neud. Ond dwi angen help a dydw i ddim yn edrych ymlaen. Pam nes i gytuno i redeg y hanner Marathon?!! HELP!

Esgidiau gwael Ger
Gyda llaw, methodd y sgidie pel droed newydd sbon Ger weithio neithiwr yn y gêm bêl-droed!!!  Yn lle galluogi Ger i fynd yn gyflymach ag i sgorio 5 gol a thaclo’n wych, yn anffodus nethon nhw anafu pengliniau bach Ger. Neges i ni gyd fan na, dyw’r un sy’n edrych ore ddim wastad yn ddewis da!  Sori Ger!!!

Sgidie pêl-droed
Ma Ger newydd brynnu esgidiau chwarae pêldroed newydd sbon!  Felly heno, ma fe’n chwarae pel droed i tim lleol a ma’r sgidie yn mynd i cael ei ddefnydddio!  Tybed a fyddan nhw’n gweithio, neu a fydda’n nhw yn ei arafu.  Rhoiai wbod i chi!

ŵyn bach!
Bore dydd llun yn barod!  A ma'r tywydd yn hyfryd a fi ishe bod adre da’r anifeiliaid!  Dyw e ddim yn dêg.  Styc o flaen cyfrifiadur yn lle tynnu wyn neu casglu wyau neu tacluso’r fferm.  Awyren sy ishe arnai, allai hedfan adre am ginio a swper wedyn ‘ny!

Deffro...
Bore Da. Gobeithio natho chi fwynhau y rhaglen bore ma gyda Alex a Alun. O ni’n gwylio bore ma hefyd o gynhesrwydd fy ngwely OND bore fory bydd raid I FI godi am 5.30am er mwyn dod i gwaith er mwyn ymarfer y rhaglen cyn mynd yn fyw am 8.  AHHHHHHHHHHHHH. Dydw i ddim yn edrych ymlaen o gwbl. I fi’n casáu codi yn gynnar mwy nag i fi’n casáu Lloegr ac ma hynny yn ddweud mawr!

Felly Hanner Tymor iddo chi. Felly gobeithio eich bod chi yn gwneud rywbeth diddorol? Os i chi gadewch i ni wybod be i chi’n neud. Dwi’n eiddigeddus iawn eich bod chi’n cael wythnos bant, felly gwnewch y mwyaf ohono.

Dyna ddigon ohono i yn clebran. Cofiwch i wylio bob bore am 8 tan 10 ac yn y pnawn 4 – 6 a cystadlwch yn Pwy yw’r Seren. Ma na wobrau gwanhaol bod dydd. Welai chi’n gynnar bore fory. TARA!

Blogio cyflym
Fi a Mel yn cael cystadleuaeth pwy sy’n gallu neud blog cyflymach. Fi di ennill gobeithio.

Rasio blogio!
Ma Ger a fi’n cal cystadleuaeth pwy sy’n gallu neud y blog cyflymya, fi wedi benu, TATA!!!!!!!!!!

Sosban?!
Am rhyw reswm ma da Ger Sosban mawr coch ar ei ddesg, fi’n poeni ambyti e bach a gweud y gwir.  Pam bydde sosban mawr coch ar ddesg Ger?!  Fi’n gwbod, achos bod e ishe coginio wy wedi ffrio yn gwaith.  Na, dyw Ger ddim yn hoffi wyau!  Helpwch, pam ma sosban coch ar ddesg Ger?!

C'mon bois!
Dim ond 3 diwrnod i fynd tan y gem fawr, Cymru yn erbyn yr Alban! Ond cyn ‘ny, ma rhaid i fi weud, curo’n ni’r Saeson!!!   Pwy sy’n mynd i ennill?  Sain gweud dim byd, achos odd hi ddim yn edrych fel petai nhw yn mynd i gal dim cais o gwbl hanner cynta’r gem penwythnos diwethaf.  Na gyd weda i yw ‘ffydd’, na gyd sy angen arno nhw.  Pob lwc Cymru!

Lloegr 19 – Cymru 26
I fi’n siŵr wedodd pawb, bod Cymru methu ennill, fydde nhw yn lwcus os fydde nhw yn llwyddo i roi gem dda iddyn nhw.....WEL nathon ni mwy na hynny, nathon ni guro nhw. Ooo do. Cymru yn curo Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

WOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!

Dyna oedd fy ymateb i pam aeth y chwiban ar ddiwedd y gem. O'dd e'n wych. Pwy a ŵyr, os newn ni guro’r Albanwyr wythnos nesaf falle newn ni ennill y Pencampwriaeth. Ro ni hefyd yn dathlu fy mhen-blwydd dydd Sadwrn felly roedd y canlyniad dim ond yn helpu y dathliadau.

Daeth 30 o bobl i fy nhŷ i i wylio’r gem, ambell un yn Saeson felly doedden nhw ddim yn rhy hapus, ond roed tynnu eu coesau nhw yn grêt. Pwy fydde’n credu’r peth Cymru yn curo Lloegr? Yipeeee.

Ie, felly penwythnos grêt ond dwi wedi blino ar ôl y dathliadau felly chwarae pêl droed yn syth ar ôl gwaith heno ac yna yn syth i’r gwely i gysgu. Oooo fyse hi’n neis bod yn gwely nawr...........

Dathlu canlyniad Cymru...
IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE...

...EEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!!!!

Pob lwc i Gymru
Ma’r penwythnos wedi cyrraedd. IEI enfawr oherwydd fel chi’n gwbod ma na gem Rygbi yn cael ei chwarae fory. Fi’n wir gobeithio bydd Cymru yn ennill ond sain siwr os newn nhw. Fydd hi’n gem agos, falle Stephen Jones i ddod ymlaen yn hwyr yn y gem a cipio buddigoliaeth. Pwy a wyr...

Ma gyda fi llon ty o ffrindie yn dod draw i wylio’r gem. 20 fi’n meddwl. Ma hi’n benblwydd arnai Dy' Mawrth felly i ni’n dathlu Dydd Sadwrn. WOOO!! Dim byd gwell na parti!

I fi’n mynd i baratoi ar gyfer rhaglen pnawn ma nawr. Felly cofiwch i wylio fi oherwydd fyddai’n cyhoeddi ennillydd ein cystedleuaeth rygbi. POB LWC I BAWB A POB LWC I GYMRU FORY.

Ffrinj!
Wedi cael toriad gwallt heddi, a nawr ma’ ‘fringe’ da fi!  Ar y foment ma fe’n mynd a fy wic i achos fi’n methu gweld dim byd, ma fe o’r ffordd!  Ond fi’n siŵr ‘da bach amser byddai’n dod i arfer da fe.  Gewn ni weld!

ZZzzzz!
YCH! Dyna sut dwi’n teimlo bore ma. Dwi wedi blino yn lân. Pam bod hi mor anodd i godi bob bore Dydd Llun? A pam bod y cloc larwm yn swnio mor uchel? Dwi’n meddwl yn hytrach na gwneud gwaith wrth fy nesg, a’i i gysgu ar y soffa yn y stiwdio. Ie, syniad da.

Peidiwch a gweud wrth neb, cyfrinach yw e...!

Penwythnos - iei!
Penwythnos yn agosáu, llwythi o bethau i neud.   Fel... carthu sied y hwyaid ar ffowls, mynd ar ceffyl mas am wâc, carthu o dan y ceffyl, gobeithio gweld wyn bach newydd a gwario lot o’r amser da’r cŵn.  Edrych mlaen yn barod!

Aw!
Wythnos yma i fi wedi bod yn parhau gyda jogio 3 gwaith yr wythnos gyda’n ffrind. Ond mi nes i frifo fy nghefn i wythnos dwetha yn gwneud Her i Ger,( fydd rhaid i chi wylio i weld sut bob Dydd Iau!) A neithiwr  tra’n rhedeg roedd fy nghefn i yn andros o boenus.

I fi yn mynd i barhau i redeg ond yn anffodus ma ymweliad â'r doctor ar y gweill... Nai adel chi wybod be ma fe’n dweud :-S

Herio Ger - da iawn fe!
Helo!   Helo!   Her i Ger heddi, werth ei weld.  O’dd e mor ddoniol!   Druan a Ger yn gorfod dala lan ‘da’r Geraint arall ‘na, ‘odd ddim gobaith ‘da fe!  Chwarae teg ‘odd Geraint (gymnastics)  yn llanc yn ei ddawn, ac yn amlwg wedi rhoi ei fywyd i’r gamp.   Ond, rhaid dweud, odd Ger i wedi neud ymdrech enfawr ar y diwrnod a wedi llwyddo i gyflawni’r her.  O’n i byth yn meddwl bydden i’n gweud hyn ond, da iawn Ger!

Herio Ger
Bore Dydd Llun wedi cyrraedd unwaith eto. Bw. Ond ges i benwythnos bach braf, nath Man Utd guro Reading a ma nhw dal ar dop y Premiership. Er nathon nhw adael hi’n eitha hwyr Dydd Sadwrn? Gobeithio nath eich tîm chi ennill dros y penwythnos hefyd. Da iawn y Blues a’r Ospreys hefyd gyda llaw. Cadw Cymru ar y map!

Daeth penwythnos yma mewn pryd, erbyn dydd Gwener o ni wedi blino’n lan oherwydd dwi wedi bod yn ffilmio  eitem o ‘r enw “Her i Ger” ar gyfer y rhaglen ac ma nhw wedi bod yn “Her” gwych i mi. Mi fydd rhaid i chi wylio bod Dydd Iau nawr i weld pa her dwi wedi bod yn i wneud fydd yr un Cyntaf ymlaen D Iau yma. Ma nhw werth i weld ond a nai i lwyddo pwy a ŵyr????

Cwac cwac!
Ges i hwyaden newydd sbon dros y penwythnos!  Y rheswm am hynny yw achos odd y cadno cyfrwys wedi mynd a gweddill ffrindiau’r hwyaden, felly odd hi’n unig iawn, a odd y perchennog yn chwilio am rhywun i edrych ar ol hi.  A fi odd y person na.

Felly nes i adeiladu cwt bach iddi dros y penwythnos  a peintio’r cwt, a nawr mae’n byw yn hapus ynddo.  Trueni bo fi’n methu fod ‘na i edrych ar ol hi drwy’r wythnos!

Ble 'ma'r Beth?!
BLE MA’R BWTI. HEDDIW AM 4. WOOOOOOOHOOOOOO!!

(Mae Ger wedi cynhyrfu!)

Rolio!
Diwrnod prysur iawn heddi ‘to.  Weloch chi fi ar y ‘roller skates’?  Odd hwnna’n sbort!  Sain credo odd Ger yn hapus iawn achos o’n i’n bwmpo mewn i fe drwy’r amser!  Ond, y gem nol fory, BLE MAE’R BWTI, HWRE!!!  Methu aros i weld pei cwstard yng ngwyneb Ger unwaith ‘to, lot pertach na mae e fel arfer!

Mwy o broblemau ffôns...
I fi’n casáu meleri, oherwydd ma hi wedi dwyn fy ffon. A sain gallu ffeindio fe? Ond i fi wedi dwy ei ffon hi tra bod hi’n sefyll drws nesa i fi a sa hi wedi sylweddoli eto. Ha Ha...!

Gwylltio Ger!
Wel te bois bach, sdim byd da fi i neud mond hala Geraint lan y wal!

Smo fe’n gwbod hyn to, ond fi wedi cuddio ei ffon symudol!  Pidwch gweud ‘tho neb!

Fel arfer, ma fe’n byw a bod ar ei ffon ond dim heddi!!!

Be sy'n bod ar Geraint?!
O DIAR. Mae Geraint wedi blino..... corff ddim yn gweithio heddi.  Felly dyma fy mhlog...

Dhhjdghhjirhuierwhuifydfyggwefhwefhdhfjkehuifrhyuiwehyfuiegfgefgyuwegfweghjcbdnm

bfdhbhjsdbgyudfgwdgfyuwegfygryigfhrhjfgrgfhyurhfghiegfhgruigfhuwegfyugyufgyugfuigf

uuiwefuirfhuihuweru uqweruiouasdfusdtruwefuufrgfygyugygygygygyyuuiweriwuerutr.

YYYYY! WEDI BLINO!

Nôl i'r ysgol, a'r gwaith!
Wel, shwt deimlad yw hi i fod nol yn yr ysgol?  Mwy na thebyg, yr un teimlad a mynd nol i gwaith.  Ond dim ots, llai na blwyddyn i fynd tan ei bod hi’n Nadolig ‘to!  Gobeithio gethoch chi bresante neis i’r Nadolig!  Ges i wyntell, siocledi a llwythi o Shower gel, fi’n credo bod rhywun yn trial gweud rhywbeth!  Ta beth mwynhewch gweddill yr wythnos!

Beth fydd yn digwydd yn 2008? Chwaraeon wrth gwrs!
Mae’r Nadolig wedi hen fynd, ac ma dathliadau y flwyddyn newydd yn hen atgof erbyn hyn... Sydd yn golygu fod rhaid i ni aros blwyddyn CYFAN tan Nadolig. BOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!!!!

Ond peidiwch a phoeni oherwydd dwi’n siŵr fydd 2008 yn flwyddyn wych. I ddechrau, mewn mis ma hi’n benblwydd arna i. Iei! Ma’r Eisteddfod yn Nghaerdydd. Iei! Mi FYDD Man Utd yn ennill y Premiership ac y Champions League????(Fi’n gobeithio) Ac yn yr haf fydda i ddim yn symud o’r soffa gan fod Pencampwriaeth Pêl Droed Ewrop ymlaen, AC mae’r Gemau Olympaidd yn Beijing. WOOOOHOOOOO!

A hefyd, faith diddorol, ond trist i chi am 2008 yw bod hi’n 50 mlynedd ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd (Pêl Droed) pryd gollon nhw i Brasil 1- 0 yn 8 olaf o’r gystadleuaeth.

Ond yn anffodus ni  fydd Cymru yn Pencampwriaeth Ewrop blwyddyn yma, ond pwy a ŵyr falle nawn nhw ryw ddydd...

Felly yn syml, ta ra 2007. Helo enfawr i 2008 a’r holl chwaraeon sydd ymlaen!!

Dim bwti rhagor
Tristwch wythnos ma.  Dydd Iau bydd y tro ola i ni i whare Ble ma’r Bwti.  Felly os i chi ishe cystadlu, ma’r cyfle ola i chi.  Mae’n rhaid i fi weud nes i fwynhau gweld Geraint da peis cwstard yn ei wyneb, ac er o ni’n nyrfys iawn yn cal y peis yn fy ngwyneb, odd e’n sbort!  Peidiwch a becso, bydd gem newydd sbon da ni yn mis Ionawr, edrych mlaen at hwnna!

Annwyl Siôn Corn...
Un penwythnos bach arall, yna bydd Noswyl Nadolig yma ac yna fydd fy ngwyliau Nadolig i o ddiwrnod yn dechrau. Iei! Fel ma' hi’n digwydd bob tro, byddai’n cael 2 Nadolig. Ar Dydd Sul y 23ain o Ragfyr fydda i yn cael Nadolig gyda Dad, ac yna fyddai yn gwaith Noswyl Nadolig ac yna Diwrnod Dolig gyda Mam a fy mrawd.

Felly presante di ri -  Iei! I fi’n gobeithio cael teledu newydd Dolig yma i’n stafell wely felly gawn ni weld os ddaw Siôn Corn â un i fi. Fel chi’n gallu gweld/darllen i fi wedi cynhyrfu’n llwyr am yr ŵyl felly Ho! Ho! Ho!, dere Siôn Corn yn gloi gyda fy nheledu newydd?!!

Amser i Ger
Druan â Meleri, tra bod hi wedi bod yn gweithio’n galed trwy gydol yr wythnos, fi wedi bod yn cael ambell i ddiwrnod bant. Felly, fi di bod yn gorffen fy siopa Nadolig, ac wrth gwrs yn gorffwys, fel ma' Geraint yn haeddu i wneud. Lol! Gobeithio eich bod chi wedi fy methu i, a bod Meleri, Alun ac Alex wedi bod yn bihafio.

Wel ma’r Nadolig bron yma nawr ac i fi methu aros! Ma fy nghoeden Nadolig i ar holl drimins i fyny yn y tŷ. Dim ond lapio presante sydd da fi ar ôl i wneud nawr.  Rywbeth i fi ddim yn dda iawn yn ei wneud!

Bydd diwrnod Nadolig yma cyn i ni droi nawr, felly gobeithio fod chi hefyd wedi gorffen eich siopa. I fi dal angen prynu presant i Meleri, ond well i fi beidio dweud beth sydd da fi mewn meddwl, rhag ofn iddi ddarllen hwn...

Fi’n mynd nôl i weithio nawr. Gobeithio fod chi gyd yn iawn. A chofiwch wylio dros y Dolig, ma na llond tŷ o wobrau gwych i chi ennill. Felly falle mae chi fydd yn ddigon lwcus i’w ennill nhw!

Hen dref drewllyd!
Fi wedi cal llond bola o byw yn y dre.  Lle’n llawn bobl rhyfedd, ffiwms y ceir ar loriau yn mynd syth i’n ysgyfaint, ych a fi!  Methu aros i wario’r Dolig adre ar y ffarm yn yr awyr IACH!!!  A s'dim byd i neud 'ma!  Oni bai siopa (A fi’n casáu hwnna, gormod o stress!) a bwyta, ond ma’r safon y bwyd mor wael ma, s'dim byd hyd yn hyn wedi gallu curo bwyd a chynnyrch cartref.  Edrych mas trwy’r ffenest yn y nos a na gyd sy na yw miloedd o oleuadau a tai a traffig, waw na bert!  Adre, bydden i’n gweld anifeiliaid bob man, caeau a choed gwyrdd a tractorau byti’r lle, ond yn bwysicach na dim, bobl cyfeillgar sy’n fodlon helpu ei gilydd!

Amser am barti!
Os oes rhywun yn gweud y gair PARTI i fi, ma un peth yn digwydd,  fi’n mynd yn wallgof ac fel plentyn bach wedi cynhyrfu yn syth!

Ac heno ma, rydyn ni yn cael ein PARTI NADOLIG. WOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!

Chi’n gweld, fi fel plentyn bach.

Mi oedd awydd gyda Mel a fi i wisgo fyny mewn “ffansi dress” ond ma pawb arall yn mynd yn smart yn ei teis a’i dici bows felly well i ni neud yr un peth.

Mi o ni moen mynd fel Siôn Corn, fysau hynny wedi bod yn ddoniol.  Ond i fi’n edrych ymlaen yr un peth, felly noson hwyr heno ond peidiwch a phoeni fyddai ni yn ôl fory ru’n peth ag arfer.

Mae y Nadolig wir yr wedi cyrraedd nawr. Iei!

O ie, a weloch chi gwyneb Dylan Ebeneser ddoe pryd roddon ni anrhegion Spurs iddo fe? Fel fysau’r hysbyseb Mastercard ar y teledu yn dweud “Priceless”, neu “Amrhisadwy” i ni’r Cymry!

Glaw, gwynt, a dim siopa!
Wel am benwythnos wael, o ran y tywydd fi’n meddwl!  Fi dal heb ‘di cal cyfle i ddechre siopa dolig to, a Ger wedi gorffen!  Wsnos 'ma, y sylwebydd pel droed Dylan Ebenezer yn y stiwdio, edrych mlan i weld Ger yn angytuno da fe, oherwydd ma Ger yn cefnogi Man U, a Dylan yn cefnogi Arsenal!

Dylsai fod yn ddiddorol iawn...!

Nadolig yn dechrau
Wel bore ma mae Meleri a fi yn mynd i siopa am fwy o ddillad. Iei!

Dwi’n gobeithio prynu ambell anrheg Nadolig i fi fy hun hefyd ond peidiwch a dweud wrth y boss!

Na jôc, sa’i yn, ond fydd hi yn neis i gael lot o ddillad newydd ar gyfer y Nadolig ar flwyddyn newydd.

Hefyd i fi’n gobeithio o heddiw ymlaen fydd dre yn llawn naws Nadolig ac felly fydd y naws yna yn fy’n nghyrraedd i a fydd y Nadolig yn dechrau go iawn o heddiw ymlaen.

Bach yn gynnar falle, ond i fi wrth fy modd.

Siôn Corn a’r Nadolig, fi’n barod, dewch yn llu!

Pêl droed a Soffas
Wel gobeithio o’ch yn gwylio ddoe oherwydd os ddim, wnaethoch chi fethu rhaglen a hanner.

Penderfynodd Meleri a f i ddwyn (fenthyg) soffa Alex Jones sef ein gwestai ni am y diwrnod.

Doedd dim clem da hi mae ei soffa hi oedd e, dim ond gwneud sylw bach fod da hi yr un soffa adre.

Pan ddwedon ni wrthi roedd ei gwyneb yn bictiwr.

Roedd hi’n raglen gwych felly gobeithio wnaethoch chi ei gwylio!

Hefyd neithiwr wnaeth Man Utd guro Sporting Lisbon 2-1 gyda gol hwyr gan Cristiano Ronaldo.

Felly roedd hynny yn werth i weld ac wnaeth Arsenal golli i Sevilla, sy’n wych gan fy mod i’n casáu Arsenal, ac hefyd mae fe’n rhoi fwy o ddeunydd i mi pan fydd Dylan Ebenezer (sy’n cefnogi Arsenal) yn y stiwdio wythnos nesaf.

Yn anffodus nes i ddim gwylio’r gem neithiwr oherwydd es i, i wylio Kayne West yn y CIA.

Roedd y lle yn orlawn a pan ddaeth Kayne West ar y llwyfan aeth y dorf yn wyllt.

Roedd hi’n gyngerdd gwych ac yn sioe hyd yn oed gwell.

Felly es i i’n wely wedi blino’n lan neithiwr ond yn hapus braf.

Da iawn Cymru!
IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!

Da iawn Cymru neithwr a da iawn Croasia.

Ro’n ni berson hapus iawn neithwr.

A druan a Steve McClaren…!

Meddwl am Loegr
Mae hi’n noson fawr iawn heno.

Mae Lloegr yn chwarae yn erbyn Croatia.

Ac os yw Lloegr yn llwyddo i gael pwynt, mae nhw yn mynd drwyddo i Pencampwriaethau Ewrop.

Nawr, odd Lloegr angen i Israel o bawb GURO Rwsia nos Sadwrn, ac ryw ffordd neu gilydd, llwyddodd Israel i ennill, sy’n rhoi gobeithio Lloegr nol yn ei dwylo nhw.

Rhywbeth doedd ddim yn debygol o ddigwydd! Falle bod rhai ohono chi yn cefnogi Lloegr, ond i fi yn casáu gweld Lloegr yn llwyddo, gan bod fy ffrindiau i sy’n byw ochr arall y Bont o hyd yn tynnu fy nghoes am fethiannau Cymru.

Felly gyd wead i yw.

C’MON CROASIA, gyda llais Arthur Picton o C’MON MIDFIELD!

Y Reffari clên
Odd Nigel Owens yn grêt yn y stiwdio dydd Mawrth.

Odd e’n berson hyfryd a thawel!

O’n i ffili credo pa mor ffit odd e, a cymaint odd e’n ymarfer yn ystod yr wythnos.

Neis i weld bod rhywun o Gymru yn neud mor dda yn rhyngwladol, da iawn fe.

Alex sy’ wythnos nesa, bydd e’n rhyfedd iddi fod nôl ar Planed Plant fi’n siŵr.

Ond edrych mlaen am sgyrsiau difyr!

Sialens i Nigel
Ma Nigel Owens yn dod i’r stiwdio heddi, a ma Meleri a finne, wedi gwisgo fyny fel chwaraewyr Rygbi.

Ma da fi shell siwt hen ffasiwn, gan fyddai yn gwneud sialensiau yn erbyn Nigel.

Ond ma rhaid i mi gyfadde bod ni’n dau yn edrych yn wirion iawn, yn eistedd yn y swyddfa!

Ond does dim ots, pawb arall sy’n genfigennus o’n gwisgoedd newydd ni......Hmm, falle ddim..!

Bwti a peis!
Nes i fwynhau dydd Iau diwethaf, pan o’n i’n whare Ble ma’r Bwti am y tro cynta erioed.

Odd e mor gyffrous i fod ar yr awyr yn fyw am cymaint o amser!

A odd ein ‘helpwyr handi’ yn grêt, o’n nhw mor frwdfrydig!

Peth arall nes i fwynhau odd siarad da bobl gwahanol ar y ffôn dros Gymru, a clywed yr acenion gwahanol, a weithiau ddim yn deall be o’n nhw’n dweud!

Ond, heb os, uchafbwynt y dydd odd gweld Ger yn cal lot o beis cwstard yn ei wyneb.

Ha ha ha!!!

Gwestai Dydd Mawrth
Bore Da.

Ma’ Tara Bethan yn ymuno a ni yn y stwdio pnawn ma.

Tara yw ein ail gwestai felly mi fydd hi dal yn od cael rhywun yn y stwdio gyda ni.

Ond fydd yn brofiad gwych dwi’n siwr.

Oherwydd fod Tara  yn y stwdio gyda ni, rydyn yn treulio lot o’r diwrnod yn ymarfer ein lincs rhwng y rhaglenni ac yn mynd dros y cwestiynne gyda Tara i wneud yn siwr fod hi’n hapus gyda beth i chi’n mynd i ofyn iddi – ry’n ni wedi cael llwyth o gwestiynnau gennych chi, diolch!

Dwi’n edrych ymlaen i gael sgwrs gyda Tara, gan ei bod hi wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar ac wedi bod yn gysylltiedig gyda sawl prosiect gwahanol, action, cyflwyno a canu.

Dwi bant i baratoi nawr, sy’n golygu newid a rhoi bach o golur ymlaen.

Bw :-( Fel rheol i fi’n cymryd tua 5 munud i baratoi a ma' Mel yn cymryd ryw hanner awr, felly well i fi fachu’r ystafell goluro cyn i Mel wneud.

Meleri ddigwilydd!
Pam fod Meleri mor rude?!

I ni’n eistedd gyferbyn a’i gilydd ac i fi’n ceisio cael sgwrs gyda hi, ond ma hi’n anwybyddu fi ac yn dweud bod hi’n gwneud gwaith.

Sain credu bod hi’n gwneud gwaith o gwbl, ma hi siwr o fod yn syrffian y we.

I fi’n mynd i daflu rwbeth ati hi i gael ei sylw i weld os neith hwnna weithio.

Hisht Ger!
Fi’n eistedd ar bwys Ger nawr a ma fe’n hala fi lan y wal!!!

Ma fe’n methu stopo siarad!

Fi’n trial bwrw mlan ‘da ysgrifennu sgriptiau, a ma fe’n torri ar fy nhraws.

A wneith rhywun weud wrtho fe i fod yn dawel!!!

Rygbi brwnt!
Ges i benwythnos hyfryd yn yr awyr iach.

Dydd Sadwrn es i i wylio Tregaron yn whare rygbi yn erbyn De Gower.

Enillodd Tregaron 29 – 5, ac felly ath y tim arall yn grac, a dechre whare’n ryff!!!

Ond, odd hi’n wyntog dros ben yno ar glaw yn chwythu’n syth mewn i’m llygaid, AW!

Ond nes i fwynhau bechgyn Tregaron yn whare gyda’u calonnau.

Da iawn!

Mwy o bêl-droed!
Helo Bawb. Ma’ wythnos arall wedi cyrraedd unwaith eto.

Gobeithio gawsoch chi gyd benwythnos werth i’w gofio.

Ges i benwythnos digon hamddenol.

Diolch byth mi wnaeth Man Utd guro Blackburn 2 – 0, ac heb Wayne Rooney felly roedd hi’n fuddugoliaeth dda iawn. Sôn am bel-droed, dwi’n mynd i chwarae pêl-droed 5 bob ochr heno.

Felly gobeithio neith hi gynhesu rywfaint erbyn heno.

Ond bore ma' cyn dod i’r gwaith sylweddolais fy mod i wedi colli fy shin pads, felly fydd rhaid i mi frysio i brynu rhai heno cyn i fi chwarae am 8 o’r gloch.

Digon o amser felly fydd hynny’n iawn.

Mi nai adel i chi wybod sut aeth y gem yn y fy mlog nesa i.

Nai siarad gyda chi’n fuan a mwynhewch y rhaglen heddiw.

Penwythnos da i ddod
Wel, ma hi’n fore Dydd Gwener, sy’n golygu bod y penwythnos yn dechre heno. Iei!

Dwi wedi penderfynu cael penwythnos tawel wythnos yma oherwydd i ni wedi bod yn brysur iawn wythnos yma, ac dwi’n haeddu seibiant yn fy marn i, ac hefyd dwi’n dechre magu annwyd, felly gorffwys yw’r peth gore.

Ond yn dweud hynny, dwi credwch neu beidio bron wedi gorffen fy siopa Nadolig, dim ond fy mrawd Daniel i fynd, ac ma fe’n hawdd i brynu ar ei gyfer, felly dwi’n gobeithio gorffen fy siopa Nadolig Dydd Sadwrn yn dre.

A fydd hynny yn gamp a hanner o ystyried bod mis Rhagfyr yn bell, bell i ffwrdd!

Penwythnos yma, yr un peth a pob penwythnos i fi’n brysur yn cadw golwg ar holl chwaraeon Prydain.

Wythnos diwethaf mi wnaeth Man Utd, tîm gore’r byd, ildio gol yn y munude olaf yn erbyn  Arsenal i sicrhau pwynt yr un i’r ddau dim.

Gorffennodd y gem 2 -2.

On ni wedi siomi GYMAINT.

Felly gobeithio neith Utd guro Blackburn dydd Sul, mi fydda i yn gwylio gyda fy ffrindie, cyn mynd draw i Tŷ Mam yn y nos i gael cinio dydd Sul hwyr.

Ni’n tueddu i gael cinio Sul yn y pnawn fel bod pawb yn cael gorffwys a cysgu’n hwyr yn y bore. GRET!

Wythnos nesa ma gyda ni Tara Bethan ar  rhaglen, ac i ni’n chwarae ein gem newydd Ble Ma’r Bwti felly ar ôl ymlacio penwythnos yma fyddai’n fwy na parod am ddydd Llun, nid fel Dydd Llun diwethaf.

Mwynhewch y Penwythnos

Gwestai a Rhyl FC
Wel, fel chi wedi gweld, roedd Sarra Elgan yn y stwdio ddoe.

Roedd hi’n gret cael gwestai ar y rhaglen, mi roedd en creu awyrgylch gwahanol, ac awyrgylch grêt i gael unwaith yr wythnos am bach o amrywiaeth.

I chi a na wnaeth wylio ( rhag eich cywilydd) mi atebodd Sarra bob math o gwestiynnau, a oedd yn son am pryd wnath hi gyfarfod Simon Callow a Uri Geller.

Difyr iawn.

Yn y stwdio ddoe roedd GAC enwocaf S4C sef Anji B.

Ma’n rhaid i mi gyfadde fy mod i wrth fy modd gyda hi.

Ma hi mor haerllug ac does dim ots gyda hi os yw hi yn brifo teimlade pobl (er bod hynny yn wael iawn).

Mae hi yn ddoniol iawn tra yn tynnu coes, ond fydd rhaid i fi ddweud wrthi ryw ddydd bod Rhyl FC yn RUBBISH a dyle hi ddim brolio am y peth gymaint.

Yn bersonol sain credo bod hi’n gwybod dim byd am bel droed. LoL!

Ond sain credu fydde hi’n gwrando arna i, dim ond rhoi llond ceg yn ôl i mi!

Hefyd, falle bod chi di sylweddoli nes i dorri fy nghwallt ddoe hefyd, i fi’n casau torri fy nghwallt, mae well da  fi e yn hir, ond fi’n siwr neith e dyfu yn ôl!

Felly oedd ddoe yn ddiwrnod prysur iawn.

Heddi dim gwesteion,  dim ond fi a Mel, ond peidiwch a phoeni mae rhaglen gwych yn aros amdano chi yn cynnwys Peirianhygoel a Sgorio Bach.

Iei!

Mas yn y wlad
Ges i benwythnos hyfryd.

Nes i fynd i dre Aberystwyth i brynu paent i beintio stafell wely, wedyn ‘ny, torri clawdd yr ardd er mwyn gadel rhagor o haul mewn, a llosgi’r holl frigau mewn coelcerth fawr!

E’s i ar y ceffyl i hôl y gwartheg o’r caeau i odro, yn lle beic modur, a’r cwn ddim yn gwbod beth i neud achos odd y ceffyl yn neud eu gwaith nhw!

Nes i bach o odro yn y parlwr, a helpu codi buwch odd yn methu codi ei hunan.

Penwythnos prysur felly yn yr awyr iach!

Bocsio a cyflwyno – gwaith caled!
Daeth dydd Llun yma yn llawer rhy gyflym, ges i benwythnos brysur ac ar ôl mynd i wylio Joe Calzaghe yn bocsio nos Sadwrn am 1 y bore (gan fod y bocsio yn cael ei ddarlledu’n fyw i America) o ni dal wedi blino ac yn ffeindio hi’n anodd iawn i godi yn union fel chi ar fore d. Llun pan rhaid i chi fynd i’r ysgol. Ond mi rydw i yn edrych ymlaen i  wythnos yma oherwydd mae Sarra Elgan yn y stiwdio gyda ni ac Anji B o’r Rhaglen Wirionach Fyth, felly ein gwesteion cyntaf! Fi’n siŵr eith bob dim yn iawn, ond cofiwch anfon eich cwestiynne mewn ar ei chyfer hi.

Tân gwyllt gwallgof
Wel, ma’r tro cyntaf i fi fod yng Nghaerdydd ar noson tan gwyllt.

Profiad rhyfedd iawn oedd e i ddweud y gwir.

O’n i’n methu credu cymaint o bobl oedd wrthi!

O’ch chi’n methu sefyll am funud heb glywed roced yn tanio o bob cyfeiriad a’r swn mwya swnllyd!

Erbyn y diwedd, o’dd y rocedi’n glanio mor agos nes o’n i’n meddwl fod y tŷ’n mynd i fynd ar dân!

Odd hi fel bod yng nghanol rhyfel neu rhywbeth!  5ed o Dachwedd blwyddyn nesa, byddai’n neud yn siwr fy mod i nol yn y wlad!

Chwarae gêm fyw dydd Iau
Methu aros tan dydd Iau, byddwn yn chwarae gêm yn fyw ar yr awyr, dylse fe fod yn sbort a bach o sialens.

Bydd gwylwyr yn dod mewn i’r stiwdio i roi help llaw, felly bydd y stiwdio’n llawn am unwaith!

Hefyd, fi’n gobeithio gallu taflu plat o gwstard dros gwyneb Ger ddydd Iau, ond peidiwch gweud dim byd wrtho fe ‘to!

Yr wythnos gyntaf!
Wel ma’r wythnos mawr ‘ma!

Ni wedi bod yn fyw, a hyd yn hyn dim camgymeriadau!

Ma fe’n deimlad rhyfedd bod yn fyw ar yr awyr, yn enwedig pan mae’n nhw’n cyfri ni lawr o’r hysbysebion ag ati , ond gobeithio newn ni gyfarwyddo da fe’n glou.

Sdim gormod o nerfau hyd yn hyn chwaith, efallai gan fod y lincs yn digon byr ‘to, ond wythnos nesa bydd ‘da ni mwy o funudau i’w llenwi.

Gobeithio fod y gwylwyr yn hoffi eu cyflwynwyr newydd hefyd!

Gyrrwch neges i ni i ddweud beth ydych chi’n meddwl ar negesfwrdd Clonc!

Mynd yn fyw yn yr wythnos gyntaf!
Pan o ni’n arfer eistedd adre a gwylio rhaglenni teledu fel Planed Plant, do ni byth yn ystyried y pethe sy’n mynd ymlaen tu ôl y camera.

Tra bod ni yn y stiwdio mae na griw o bobl yn y Galeri sy’n gallu siarad â ni trwy ddyfais sydd gyda ni yn ein clustie.

Tra bod ni yn siarad â chi adref, mae nhw yn siarad â ni yn ein clustie yn dweud wrtha ni ble i edrych ac yn ein cyfri ni lawr i’r rhaglen nesaf neu y toriad nesaf.

Mae rhaid i mi gyfadde' ei fod yn cymryd amser i ddod i arfer gyda fe!

Dyna’r peth anoddaf i ddelio gyda tra bod ni yn cyflwyno, heb sôn am fod yn nerfus, gan bod ni’n mynd yn fyw ar y teledu bob dydd!

Fi’n siŵr ddown ni i arfer gyda’r cyfri yn ein clust ac fe eith y nerfusrwydd.

Mi ydyn ni yn ddigon cyffyrddus ar y set, a dwi’n edrych mlaen nawr i wythnos nesaf lle fydd gyda ni westeion yn y stiwdio, a bydd ambell un ohono chi yn y stiwdio gyda ni yn chware ein gem newydd ni “Ble mae Bwti”, felly fydd cael chi yn y stiwdio gyda ni ar sioe fyw yn lot mwy o hwyl!

Siarad yn y glust
Mae'n anodd i ddod i arfer â rhywun yn siarad yn dy glust, tra ti'n trial cyflwyno a gwrando 'run pryd!

Ond, gyda amser gobeithio ddaw e yn naturiol i fi.

Hefyd, ar lawr y stiwdio ma'r cyfarwyddwr yn cyfri ni lawr i'r hysbysebion, ac felly os nad ydyn ni'n gorffen popeth mae angen ei ddweud erbyn yr eiliad olaf, sdim dewis da ni, bydd yr hysbysebion yn torri ni bant!

Felly cofiwch gadw llygaid mas am unrhyw beth felly, rhag ofn, a meddeuwch i ni...!

Cwrdd â Thîm Ffrainc
Tra odd'en ni allan yn siopa, gafon ni gyfle prin i gâl paned yn Starbucks.

Felly fyn'na o'dd Ger a fi yn sipio coffi a tê, ac o rhywle, dath hanner tim rygbi Ffrainc eistedd drws nesa i ni!

O'dden nhw'n fawr!

Wrth reswm o'n i'n itha shei, ond odd Ger ishe siarad â nhw.

Felly lan a ni yn ddistaw bach, a ffwrdd a fi, "Bonjour!" Dim ateb wrth y Ffrancwyr, felly, "Dyma Ger a fi yw Meleri", dal dim byd.

"J'adore rygbi?!"

Ac unwaith eto, yn anffodus dim ateb!

Felly, sain credu newn ni hyna to yn y dyfodol agos!

Gwibdaith o Gaerdydd
Cyn dechrau ffilmio, aeth Meleri a fi ar fws o amgylch y dre.

Un rheswm oedd i Meleri gael gweld prif leoliadau Caerdydd, ac y llall oedd i hysbysebu rhaglenni sydd ar y rhaglen... gyda'r ychelseinydd unwaith eto.

Felly meddyliwch, Bws mawr coch, dwy lefel, heb do. A fi a Meleri yn gweiddi ohonno. Wel odd pawb ar y bws wrth ei bodd oni bai am y dyn a oedd yn tywys pawb o'dd ar y daith!

Ond uchafbwynt y bws oedd cyfarfod criw o gefnogwyr Sealand Newydd a oedd draw ar gyfer y Rygbi.

Roedden nhw wrth ei bodd, ac yn sgwrsio gyda ni yn ddi stop.

A hefyd helpo'n nhw ni gyda ambell i linc i gamera.

Gan fod nhw'n mor garedig nathon nhw roi, tedi bach o Sealand Newydd i Meleri a "keyring" Seland Newydd i fi.

Chwarae teg iddyn nhw. Diolch bois!

Dod i arfer â'r swydd newydd
Wel am swydd. Y diwrnod cyntaf o ffilmio, mi roedd y criw camera yn dod i fy nhŷ i. Un Problem, oedd y tŷ'n llawn platiau budr, dillad ym mhob man ac doedd y flat heb gael ei lanhau ers i fi symud mewn (sef blwyddyn yn ôl.) Felly dyna lle o ni ar Nos Sul yn glanhau fel hen fenyw. O ni wrth fy modd. Honest.

Yna daeth y bore, godes i'n gynnar cyn i'r criw ddod, oherwydd roedd angen gwneud rywbeth arbennig iawn bore ma. Sef rhoi colur ymlaen. Dyna lle o ni yn sefyll o flaen drych YN COLURO. ANHYGOEL. Fyse'n ffrindie i yn chwerthin am byth tase nhw'n fy nghweld. Ond diolch byth does dim llun. Oh diar. Oes ma na. AHHHH.

Ond ar ôl i mi ymbincio, daeth y criw, a dyna lle nath yr hwyl ddechre. Athon ni i fowlio deg, chwarae ar y Nintendo Wii, mynd i'r sinema, ac ymweld a Stadiwm y Milleniwm, lle mi fydda i yn chwarae pel droed i Gymru ryw ddydd. Yn enwedig os in nhw dal i golli fel ma nhw. Twt twt. Felly gafon ni fore gwych.

Ar ôl helyntion y bore, death Meleri i ymuno a ni. Iei! Ac erbyn hynny roedd hi'n amser bwyd, felly i'r Bae a ni am fwyd a hufen ia. Blasus iawn.

Ar ôl bwyta daeth yr hwyl go iawn. Nid oeddwn erioed wedi disgwyl gwneud be wnaethon ni y pnawn yno ond mae'n rhaid i mi gyfadde roedd hi'n hwyl.

Ein swydd am y pnawn oedd i hysbysebu rhaglenni newydd sydd ar y rhaglen. Felly gafon ni uchelseinydd, dillad dawnsio a chriw camera, ac bant a ni weiddi manylion y rhaglenni lawr Queen St. yng Nghaerdydd, ac i siarad i bobl ddiethr, odd ddim eisiau siarad i ni o gwbl. Odd hynny'n ddoniol iawn. Ond roedd y rhan gore dal i ddod. Mi benderfynnodd ein bosses bod nhw am i ni wisgo fynny fel dawnswyr o sbaen, a DAWNSIO, IE DAWNSIO yng nghanol Caerdydd. Doniol iawn. NA SAI'N CREDU! A dyna be wnaethon ni, ac fe rhoddodd ryw fachgen 20c i ni. GWYCH. Pam yn y byd wnath e roid arian i ni? Falle talu i ni adael oedd e?!

A dyna be wnaethon ni, yn chwerthin yr holl ffordd gyda'n 20 ceiniog...!

Mynd i siopa!
Wel, wel, wel, gethon ni lot o sbort yn siopa dillad. Odd 'da ni siopwraig personol a oedd yn dewis beth odd hi'n meddwl fyddai'n siwto ni. Ond, weithiau bydde hi'n dewis pethau amheus! (A diolch byth, odd hawl 'da ni weud NA!) Er, fi'n creu dylse Ger 'di cadw'r het a'r tei pinc!

A wedyn, y torri gwallt, wel nab eth o'dd ca'l ein sboilo! Treuliodd y steilwyr hanner awr jyst yn siarad am fy ngwallt! Wel beth sy' weud, mond bod e'n hir, syth a melyn! Ond, cawsom ein trin fel y teulu brenhinol. Massage i'r hen ymenydd, pedwar gwahanol fath o shampw a pwy a wyr beth arall gafodd ei daflu mewn. Ac i orffen, y steilio. Felly gyda'r cyfan, gethon ni ddydd a hanner o pampro a... pampro!