Annwyl Meleri ac Alun (os yw Alun wedi cofio codi bore ma ar gyfer gwaith hynny yw). Fi ar hyn o bryd yn gorwedd yn yr haul, a fi ar y lap-top gyferbyn a pwll nofio, gyda diod oer wrth fy ochr. Ma’n gymaint o siom bo chi nol yng Nghymru fach. Ydy hi’n bwrw glaw? Os d’yw hi, ddim trueni bo chi tu fewn yn gweithio yn galed TRWY’R DYDD. Fory fi’n mynd i orwedd yn yr haul yn neud dim byd unwaith eto, ac y diwrnod canlynol mi fyddai yn gwneud yr un peth, ac y diwrnod wedyn, ac y diwrnod wedyn, ac y diwrnod wedyn. O, dyna braf...
O, ma raid i fi fynd nawr ma na ferch del yn dod draw i siarad gyda fi. TWDALW!

