1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Blog

Ger neu Mel sy' yna?!

Helo Ger sy ma ar gyfrifiadur Mel, fi wedi dwyn e am 5 munud, dyw hi ddim yn gwbod achos mae’n neud paned o de a choffi yn un i hunan. A dyw hi ddim yn neud diod i fi achos does dim angen diod arna i, dwi ddigon clyfar…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 19 Mai, 2008

Cwpan yr FA

I ni’n mynd i weld Cwpan Yr FA heddi. I fi wedi cyffroi yn lan. Wooohoooo!!

COFIWCH WYLIO!

Darllen mwy...

gan Geraint ar 16 Mai, 2008

Cwn bach bach!

Wel ma’r cwn bach yn tyfu, wedi dechrau agor eu llygaid, ond dal yn methu gweld dim byd. Nai drio tynnu llun ohonyn nhw dros y penwythnos i ddangos i chi gyd. Ond, byddwch chi gyd ishe un wedyn ‘ny! Sdim ots da fi fod y cwn yn mynd i…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 13 Mai, 2008

Gemau mawr iawn

Hip Hip Hwre, Hip Hip Hwre. Do , mi nath Man Utd ennill Cynghrair Lloegr, a fi’n hapus iawn. Dim ond 2 gem pêl-droed o bwys ar ôl tymor yma. Cwpan yr FA gyda Caerdydd yn herio Portsmouth ac wedyn Man Utd yn chwarae Chelsea yn Rownd derfynol cwpan Ewrop.…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 13 Mai, 2008

Tywydd braf a cwn bach

Helo, helo, helo!! Wel ma’r haf wedi cyrraedd! Mae hi mor boeth yn y stiwdio yn y tywydd ‘ma. Ond dim ots achos well ‘da fi’r haul na glaw unrhyw ddydd. Gyda llaw ma 7 ci bach da fi ar y fferm tua 1 wythnos oed. Dydi nhw heb agor…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 08 Mai, 2008

Hapus yn yr Haul

Ma hi mor braf. Iei! Dim glaw yn agos i Gaerdydd ar hyn o bryd, sydd yn golygu llawenydd pur. A sôn am lawenydd pur - Daeth fy nhîm pêl-droed i yn ail yn y gynghrair tymor yma sy’n meddwl bod ni yn symud fyny i gynghrair rhif 2. Iei!…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 07 Mai, 2008

Torri Gwallt, tynnu coes!

Fel arfer dydw i ddim yn rhy hoff o fynd i dorri fy ngwallt. Ma nhw o hyd yn i dorri e yn rhy fyr ac yn gwneud be ma nhw moyn gwneud yn hytrach na be i chi moyn i nhw wneud. Ond heddiw i fi’n edrych ymlaen i…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 06 Mai, 2008

Dwbwl arall i Man U?

HELO. I fi nol o fy wyliau o’r diwedd. Teimlo fel bo fi di bod i ffwrdd am amser hir. Ond ges i amser braf ond ma’n rhaid i mi gyfadde ma fe’n neis i fod yn ôl. Er bod y tywydd yn wlyb yma yng Nghaerdydd. Ond be i…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 30 Ebrill, 2008

O Sdeddfod i Sdeddfod!

Wel ma’r steddfod ar y gorwel! Gobeithio bo pawb wrthi’n ymarfer bob nos o flaen y drych, neu o flaen mam neu dad. Fi’n cofio mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Wrecsam a wnaeth y car dorri lawr!! O’n i’n canu’r ddeuawd da’ mrawd a dawnsio disgo unigol, ond ges…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 30 Ebrill, 2008

Siarad da'r anifeiliaid

Canol yr wythnos yn barod hwre! Ble ma’r bwti yfory ac yna ma’r penwythnos bron gyda ni. Methu aros i fynd adre i weld fy ffrindiau ( yr anifeiliaid hynny yw!) ac i ddala lan da nhw. Fi wastad yn siarad da’r anifeiliaid achos dy’n nhw byth yn ateb nol…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 16 Ebrill, 2008

← Blaenorol (Tudalen 2 o 10) Nesaf →

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.