1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Blog

Fideo newydd sblendigedig gan bawb!

gan Tudur - 06 Ionawr, 2009

Heia pawb! Gobeithio bo'r tywydd oer hyn heb rewi eich bysedd chi gormod i fod ar y wefan, mae'n dwym ffein yn stiwdio Planed Plant... yr holl oleuade' yna yn cadw ni'n gynnes! Ni wedi bod yn gwneud fideo i chi gael gweld y stiwdio newydd sbon mae Ger wedi…

Darllen mwy →

Helo helo helo!

gan Lois - 06 Ionawr, 2009

Wel blwyddyn newydd dda pawb! Lois sy'ma, yn cael tro ar y blogio am y tro cyntaf... mi ges i dro ar y cyfrifiadur bach bach i neud fideo i chi allan fana ar wefan mwy, MWYnhewch!

Nadolig Llawen

gan Geraint - 25 Rhagfyr, 2008

Heia criw y we! Dyma nodyn bach i ddeud Nadolig Llawen wrtha chi, a gobeithio bo chi'n cael diwrnod bril! Dwi'n edrych mlaen i weld chi i gyd ar Planed Plant yn fuan, dwi am fynd i agor fy anrhegion gan Tudur a Lois!! Hwyl! :-D

Aw!

gan Geraint - 11 Rhagfyr, 2008

Wel am wythnos brysur iawn fan hyn yn Planed Plant! Ni'n yn paratoi ar gyfer y Nadolig, ac i fi methu aros! Dyle chi weld maint fy rhestr Nadolig i, ma fe’n ENFAWR! Ond ar y rhestr ma na Law Chwith.O ie, glywoch chi yn iawn. Llaw chwith. O'n i…

Darllen mwy →

Wps...!

gan Geraint - 03 Rhagfyr, 2008

Wel am wythnos gyffrous hyd yn hyn... Nes i godi bore Dydd Llun yn hapus braf yn sgil buddigoliaeth Cymru a Man Utd. A dyna lle o ni yn gyrru yn y car i gwaith ac yna........ NATH FY MYD DDOD I STOP. Nath y car dorri lawr! Druan a…

Darllen mwy →

Nol i'r chwaraeon!

gan Geraint - 27 Tachwedd, 2008

Mae di bod yn sbel ers i fi neud blog yn y ffordd hen ffasiwn, sef ysgrifennu, felly i fi wedi penderfynu gwneud un! I fi wedi bod yn sâl iawn gyda’r ffliw... dydd ar ôl dydd yn y gwely, wedi lapio fyny yn chwysu y cyfan allan... Doedd e…

Darllen mwy →

Gwe-hei! Pwllheli

gan Geraint - 26 Tachwedd, 2008

O na! Nid o Bwllheli, ond o Garnfadryn! (Pentref bach tu FAS i Bwllheli!) Co' nhw, Elliw, Non Heledd a Lois! Da iawn chi ferched, wnaetho'ch chi ennill lot o wobrau, gobeithio bydd Elliw yn rhannu... ond sai'n credu, mae hi'n dishgwyl yn ddrwg ;-)

*Sniff* Fi'n sal!

gan Geraint - 20 Tachwedd, 2008

Ych, mae gen i annwyd afiach - ond dwi nôl nawr! Dwi wedi dwli ar fy anrheg newydd.... Wel, dewch mlaen - fi wedi bod yn sal, fi'n cael ymddwyn ychydig yn od, ok?! Mae'r 'earpiece newydd' YN ddiddorol iawn!

Gwe-hei! Criw Llwyncelyn

gan Geraint - 19 Tachwedd, 2008

Shw'mai mawr i 'gwe-heiwyr' gwych dydd Mawrth - Cole, Cameron, Iestyn a Jack o Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn! Mae'r bois yn joio Rygbi, felly lwcus eu bod nhw wedi ennill yr holl nwyddau Rygbi yn y gystadleuaeth ondyfe?!

Gwe-hei!

gan Geraint - 13 Tachwedd, 2008

Dyma nhw - y Gwe-hei-wyr wythnos yma! Elis, Beca, Dafydd a Bethan o'r Eglwys Newydd. Mae nhw wedi gweithio'n galed iawn iawn iawn ar y posteri 'na... trueni mai gyda ni yn y stiwdio o'dd Gethin o'ndyfe?! :-p

Sgiliau Ger?

gan Geraint - 11 Tachwedd, 2008

O'n i'n siarad gyda'r gwe-gam bach wedi i ni ddiwedd ffilmo neithiwr, dwi'n dechrau dysgu shwt i ddefnyddio'r camera yn araf bach... ... ond o'n i DAL yn trio chware'r gêm am orie wedyn! Fi'n credu bod colled arna'i - o'n i methu mynd gatre heb ddiwedd e!

Blog fideo cyntaf Ger!

gan Geraint - 10 Tachwedd, 2008

Fi wedi bod yn yma yn ymarfer gyda gwegam newydd Planed Plant - ond mae'r gliniadur (laptop!) bach bach wedi bod chydig o waith caled... Ond ge's i dro arall arno... A ni nawr yn ffrindiau! Dyma'r tro cyntaf i Alex a fi gael tro arno, mae lot da ni…

Darllen mwy →

Gwe-hei-wyr Caerfyrddin

gan Geraint - 05 Tachwedd, 2008

Dyma nhw, Steffan, Dylan, Hannah a Jessica - sêr y Gwê-gam wythnos yma - on dy'n nhw'n edrych yn bert yn eu dillad Gwêd y Gwir?!

Mwa ha hah!

gan Geraint - 03 Tachwedd, 2008

MWHA HA HA HA HA!! Gobeithio bo chi gyd wedi mwynhau wythnos Calan Gaeaf. Gath Alex a finne lot fawr o hwyl wedi gwisgo lan fel Mr a Mrs Draciwla! A gobeithio fod chi di mwynhau yr holl ddŵr wrth i ni ddowcio afalau. Llongyfarchiadau i bawb nath ennill gwobrau…

Darllen mwy →

PENCAMPWYR!

gan Geraint - 29 Hydref, 2008

Fel i chi gyd yn gwybod, fi’n chwarae Pêl Droed bob nos Lun, ac nos Lun yma mi nathon ni ennill y Gynghrair! O do! Ni yw y PENCAMPWYR... IEI! Mae rhaid chwarae bob tîm 3 gwaith ac yna, wel, dyna ddiwedd y tymor. Felly, gyda 3 gem yn weddill,…

Darllen mwy →

Ger ar Goll

gan Geraint - 28 Hydref, 2008

Ges i drip bach yn y car penwythnos yma. I chi sydd gyda côf anhygoel, byddwch chi yn cofio bod Meleri wedi cael swydd yn cyflwyno rhaglen Werdd o’r enw Gobldigwyrdd, wel penwythnos yma es i i wylio nhw yn ffilmio er mwyn creu rhaglen Tu ôl y Llen i…

Darllen mwy →

Trip Man U

gan Geraint - 23 Hydref, 2008

Wel i fi nol mewn un darn. Es i lan i Fanceinion echddoe i wylio Man Utd yn chwarae Celtic! Gêm wych a Utd yn ennill. A fi’n siwr bod pawb yn dweud yr un peth... "o'dd da fi seddi gwych"... Ond wir yr odd y seddi YN wych!! O…

Darllen mwy →

Bwrw glaw...

gan Geraint - 20 Hydref, 2008

Bwrw Glaw yn sobor iawn, dyna beth yw’r stori fan hyn yn Caerdydd ar hyn o bryd. I fi’n credy dyle nig yd, ac i fi’n meddwl pawb yng Nghymru godi lan bag, llenwi e gyda dillad a bob dim i ni’n hoff ohonno a symud i rywle poeth fel…

Darllen mwy →

Be Nesa? Ennill Mwy!

gan Geraint - 16 Hydref, 2008

IAAAAAAAAAAAAAAAAAAAHWWWWWWWWWW!!! Playstation 3 arall wedi mynd heddi! Llongyfarchiade mawr i ti Hannah. Gobeithio neu di fwynhau dy wobr :-D O IEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEEE!

Penwythnos o bêl drioed Cymru

gan Geraint - 13 Hydref, 2008

Haia! Ar hyn o bryd i chi gyd yn gweithio yn galed yn yr ysgol dwi’n siŵr, ond yn anffodus does dim amynedd neud dim arna i, felly dwi wedi penderfynu i ddod fan hyn i siarad am bel droed. Es i lawr i wylio y 2 gem bel droed…

Darllen mwy →

← Blaenorol (Tudalen 1 o 5) Nesaf →

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Ar y teledu heddiw

  • Y Brodyr Adrenalini 04:00 pm
  • Y 7 Magnifico a Matthew Rhys 04:10 pm
  • Stwffio 04:25 pm
  • Ffeil 04:50 pm
  • Edi Wyn 05:00 pm
  • Sgorio 05:15 pm
  • Retro 05:30 pm
Pen-blwyddi heddiw