1. Logio mewn
  2. Ymuno

English

Blog

Mel wedi mynd :-(

Wel wythnos yma tra bo fi’n gweithio yn galed iawn, ma Meleri wedi mynd adre i’r fferm i ymlacio. Iawn i rai! Felly Meleri, gobeithio bo ti’n meddwl amdana i yn gweithio yn galed. Ond newyddion mawr o lawenydd... mawr! Ma' Alex wedi ymuno gyda fi yn y stiwdio am…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 01 Gorffennaf, 2008

Mel yn grac!

Brynes i fflip fflops, ac ar ol gwisgo nhw am 10 munud, o’n i’n methu cerdded o gwbwl! O’n i’n grac! Felly, es i a nhw nol i’r siop a ges i fy arian i gyd yn ol. Diolch byth, neu fydden i’n fwy crac! A byddwch chi gyd yn…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 18 Mehefin, 2008

Flip Fflop :-(

Nes i godi bore ma, gyda awydd mawr i wisgo 'Flip Flops'. Ond yn anffodus odd e yn bwrw Glaw, ag ma raid i fi gyfadde o ni’n swp sal (ofnadw). Oherwydd ma Glaw a flip flops, a jeans sy’n cyfwrdd y llawr tra bo chi yn cerdded yn gyfiniad…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 18 Mehefin, 2008

Fi moyn Jet-ski!

Helo, i fi nol o’r diwedd o fy ngwylie yn Nhwrci. Ges i amser braf iawn, o’dd y tywydd yn boeth, y bwyd yn grêt a’r jet skis yn hyd yn oed yn well. Os byswn ni yn byw ar bwys y mor dyna’r peth cynta fyswn ni yn neud,…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 15 Mehefin, 2008

Ma' Ger nôl!

Haleliwia! Ma’ Ger nol ‘da fi o’r diwedd. Odd e fel colli fy nghoes dde am wythnos! Felly Ger, neges fach i ti, paid a mentro mynd i Dwrci neu i unrhyw wlad arall am wythnos o wyliau am sbel! Diolch.

Darllen mwy...

gan Meleri ar 15 Mehefin, 2008

Diwedd yr Eisteddfod

Wel ma’r steddfod drosodd! Nes i fwynhau mas draw, yn enwedig siarad da’r holl gystadleuwyr. Rhan fwyaf ohonoch chi wedi cael cam, ond un neu ddau wedi bod yn llwyddiannus. Nes i fyth cael llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd! Fy uchafbwynt oedd mynd ar y bumper cars da Ger, oedd…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 03 Mehefin, 2008

Cerdyn Post gan Ger

Annwyl Meleri ac Alun (os yw Alun wedi cofio codi bore ma ar gyfer gwaith hynny yw). Fi ar hyn o bryd yn gorwedd yn yr haul, a fi ar y lap-top gyferbyn a pwll nofio, gyda diod oer wrth fy ochr. Ma’n gymaint o siom bo chi nol yng…

Darllen mwy...

gan Geraint ar 02 Mehefin, 2008

Ger neu Mel sy' yna?!

Helo Ger sy ma ar gyfrifiadur Mel, fi wedi dwyn e am 5 munud, dyw hi ddim yn gwbod achos mae’n neud paned o de a choffi yn un i hunan. A dyw hi ddim yn neud diod i fi achos does dim angen diod arna i, dwi ddigon clyfar…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 19 Mai, 2008

Cwpan yr FA

I ni’n mynd i weld Cwpan Yr FA heddi. I fi wedi cyffroi yn lan. Wooohoooo!!

COFIWCH WYLIO!

Darllen mwy...

gan Geraint ar 16 Mai, 2008

Cwn bach bach!

Wel ma’r cwn bach yn tyfu, wedi dechrau agor eu llygaid, ond dal yn methu gweld dim byd. Nai drio tynnu llun ohonyn nhw dros y penwythnos i ddangos i chi gyd. Ond, byddwch chi gyd ishe un wedyn ‘ny! Sdim ots da fi fod y cwn yn mynd i…

Darllen mwy...

gan Meleri ar 13 Mai, 2008

← Blaenorol (Tudalen 1 o 10) Nesaf →

Logio mewn



Anghofio cyfrinair?

Croeso!

Croeso i Mwy, gwefan Planed Plant S4C. Mae'r wefan yn llawn o dy hoff raglenni, y gemau gorau, a gwesteion diddorol.