Logio mewn / Ymuno

English

Neidio i'r cynnwys

Mwy

Prif fwydlen

  1. Rhaglenni
  2. Fideos
  3. Gemau
  4. Clonc
  5. Byd Mwy

The Presenters

Alun Williams

Alun Williams

Fy enw i ydy Alun Williams, ac er nad ydw i’n gwbod DIM am wyddoniaeth, dwi’n barod iawn i ddysgu!!

Roedd dad yn athro gwyddoniaeth, ond pan oni’n ifanc oni’n CASAU gwyddoniaeth ac yn meddwl fod y pwnc yn HOLLOL BORING! Pan oni’n fach yr unig beth ‘gwyddonol’ nes i oedd llosgi morgrug hefo chwyddwydr amser cinio.

Peidiwch deud wrth Robyn na Heledd OND ers gweithio ar y rhaglen yma dwi wedi sylweddoli bod gwyddoniaeth yn cŵl……na o ddifri!!

Dwi wedi chwythu pethau fyny (nid ‘rubber rings’ ond ffrwydiadau go iawn), gyrru Ferrari coch, a gollwng bocsus o wyau tra’n sefyll ar ben craen uchel iawn iawn iawn. O ia, heb anghofio mynd ar ddêt gyda Elin Fflur.

Y profiad gwaetha’ oedd gorfod sniffio pî-pî llwynog! Grêt ynde?! Mae gen i deimlad y bydd ‘na lawer mwy o brofiadau i ddod!

Heledd Dafydd

Heledd Dafydd

Fy enw i ydi Heledd, a dwi’n dod o Rhyl – yr un dref ag Alun fel mae’n digwydd bod! Dwi’n un o ‘Bobol y Cotiau Gwyn’, ond mi fyddai’n trio gwneud yn siwr mod i’n gwisgo petha cŵl oddi tano fo! Dwi wedi licio gwyddoniaeth erioed – y ‘Pam?’ a’r ‘Sut?’ sydd wedi fy niddori fi. Mae’n rhaid mod i’n berson busneslyd yn y bôn!!

Fy uchelgais ydi cael chware’r gig ola’ ar nos Sadwrn yn Ngŵyl Glastonbury – ond dwi ddim yn siwr os neith o ddigwydd byth! Dwi’n chwarae bas mewn band ffync o’r Rhyl o’r enw y Primadonnas (er bo’ fi ddim yn un wrth gwrs!)….felly pwy a wyr????

Fy hoff fandiau ydi’r Super Furry Animals a Muse, dwi’n hoffi tynnu ffotograffau hefyd, a chreu celf o bob math. I gadw’n ffit, mi fydda i’n licio loncian heibio i’r mulod ar draeth Rhyl, a chwarae sboncen hefyd. Bydda i wrth fy modd hefyd yn mynd i Stadiwm y Mileniwm i wylio’r rygbi, a fydden i’n licio cael cyfarfod â Dwayne Peel rhywbryd.

Dr.Robyn Wheldon Williams

Dr.Robyn Wheldon Williams

Fy enw i ydi Robyn, a dwi’n gwisgo côt wen….ddim i bobman, ond lot o’r amser! Dwi’n athro cemeg yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ond ella eich bod chi wedi ngweld i’n creu bob math o ffrwydriadau yn y Sioe Gemeg, o gwmpas Cymru ac ar faes y ‘steddfod.

Ar wahan i ffrwydro petha’, dwi’n hoff iawn o beldroed (cym on Lerpwl!) ac yn chwarae golff, tenis a sboncen. Dwi’n hoffi ceir cyflym - yn enwedig Ferraris coch!! Ella mai dyna pam mai’n hoff liw i ydi coch? Dwi’n licio gwrando ar gerdoriaeth Meinir Gwilym. O ran bwyd, dwi wrth fy modd hefo cyris, ond dwi’n casau ŵy wedi ei ferwi a madarch. Ych!

Fy uchelgais ydi mynd i’r gofod rhyw ddydd, cyfarfod Katherine Jenkins, a bod yn ecstra ar Neighbours. Fy hoff le yn y byd ydi Abersoch, achos bod digon o awyr mor yn help i feddwl am arbrofion newydd!