Neidio at y cynnwys

S4C

Croeso i wefan oedolion Cyw

Yma, cewch wybodaeth am wefan Cyw, gwasanaeth S4C i'r plant ieuengaf. Dyma'r lle i greu prosiectau, lliwio, gwrando ar gerddoriaeth Cyw, ac wrth gwrs, anfon cyfarchion pen-blwydd. Mae'r wefan oedolion yn rhoi mynediad hawdd i'r cyfan sydd gan Cyw i'w gynnig.

Tŷ hudol wedi ei leoli yng nghanol yr ardd yw Byd Cyw. Does yr un o'r cymeriadau yn byw yn y tŷ hwn ond maent i gyd yn dod yma i gael hwyl, gan wahodd y defnyddiwr i ymuno â nhw. Mae llu o ystafelloedd yn y tŷ: Ystafell Fyw, (cyfeirir ati hefyd fel Yr Ystafell Deledu); Ystafell Gerddoriaeth, Yr Acwariwm, Y Gampfa, Cegin, Ystafell Ymolchi, Ystafell Wely a'r Atig. Wrth fynychu pob ystafell gwahoddir y defnyddiwr i ryngweithio mewn gweithgareddau hwyliog a gemau.

I ymweld â safleoedd y wefan, cliciwch yma, yna cliciwch ar y cylchoedd ar ben y dudalen i fynd â chi i'r safle penodol.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales